BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Cydymaith Caneuon Ffydd
Olrhain hanes dros wyth gant o emynau Cymraeg
  • Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth G Morgans. Pwyllgor Caneuon Ffydd, Aberystwyth. £17.95

  • Gellir clicio i wrando ar Delyth Morgans yn cael ei holi wedi darllen yr erthygl hon.

    Heb amheuaeth cyfrol fwyaf swmpus y Nadolig hwn - ac o bosib y gyfrol y bydd y mwyaf o droi ati yn ystod y flwyddyn yw'r cydymaith newydd i Caneuon Ffydd

    Mae'n gyfrol o 720 o ddalennau ac yn ffrwyth tair blynedd o ymchwil gan yr awdur, Delyth Morgans, sydd wrth ei gwaith bob dydd yn swyddog cyfathrebu gydag Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru.

    Clawr y llyfr Bu cyfarfod arbennig i gyd-fynd â'i chyhoeddi yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, Tachwedd 27.

    Nid yn unig mae'r gyfrol yn cynnwys pennod am hanes a datblygiad yr emyn yng Nghymru ond hefyd nodiadau am bob un o'r 873 o emynau a 704 o emyn donau sydd yn y llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd.

    "Wrth gwrs mae hyd a natur y pytiau hynny yn amrywio gan mai prin yw'r wybodaeth sydd ar gael ambell waith ond lle mae yna gyfle i ymhelaethu ac i adrodd straeon rwy'n cael rhwydd hynt i wneud hynny," meddai Delyth wrth gael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Tachwedd 26.

    Cynnyrch profiad
    Dywed Delyth mai "cynnyrch profiad" yw emyn.

    "Dyna sy'n gwneud emyn da efallai - fod y profiad byw yma yng nghalon yr emynydd.

    "Mae e'n canu mawl i Dduw ond wrth gwrs mae angen iddo fe fynegi y gorfoledd a'r rhyfeddod, y mawredd yma sydd yn y Drindod.

    "Ond hefyd mae angen i'r emyn efallai i fod yn fwy tyner i dywys y sigledig a'r ofnus a'r clwyfedig at Iesu Grist," meddai.

    "Felly mae yna ddau beth; mae yna'r emyn cynulleidfaol mawr yma o fawl ond hefyd mae'r emyn mwy defosiynol, emyn personol efallai," meddai.

  • Gellir clicio isod i glywed rhagor o sgwrs Delyth Morgans ar Bwrw Golwg gyda chyfraniad hefyd gan Arfon Gwilym sydd newydd gyhoeddi casgliad o garolau plygain.

    gwrandoJohn Roberts yn holi Delyth Morgans ar Bwrw Golwg, fore Sul, Tachwedd 26, 2006 gydag Arfon Gwilym

  • Lluniau o noson cyhoeddi'r gyfrol:Cliciwch
  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Delyth Morgans

  • Adolygiad Alun Lenny

  • Gwefan Crefydd BBC Cymru


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy