BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Pennod 2
Camgymeriadau Gwenhwyfar
gan Lyn Lewis Dafis


Wrthi'n rhoi dwr i'r blodau yn y bocs ffenest oedd Gwenhwyfar pan benderfynodd na allai oddef byw ar y seithfed Ilawr am ddim rhagor.

"Dwi'n ferch a ddylai gael ei dwy droed yn gadarn yn y pridd," meddai, "ac nid yn rhyw hedfan hanner ffordd rhwng nef a daear fel ydw i fan hyn."

. Ac felly dyma wisgo'i chrafat yn dynn am ei gwddf a bant a hi i weld y rheolwr banc i ofyn am fenthyg arian i brynu tŷ. Ty gyda gardd.

Dyna ei chamgymeriad cyntaf -nid oedd yn bosib i Gwenhwyfar weld rheolwr y banc, roedd pob rheolwr banc bellach yn eistedd mewn swyddfeydd yn yr India yn gwneud yn siwr fod pawb oedd yn ateb y ffôn fan'ny yn gwneud hynny'n iawn.

Felly, yr unig un ar ôl i siarad gydag e oedd ei chyfarwyddwr ariannol personol.

Ei hail gamgymeriad oedd tybio y buasai prynu ty yn fater hawdd. Oherwydd wedi iddi esbonio i'w chyfarwyddwr ariannol personol beth oedd hi am wneud fe ruodd hwnnw arni, "Bobol bach! A ych chi'n byw yn y byd go iawn, fenyw? Allwch chi ddim prynu ty fan hyn! Does neb Ileol wedi gallu fforddio prynu ty fan hyn ers blynyddoedd bellach. Dwi'n ofni eich bod chi'n sownd yn eich fflat am weddill eich oes."

Nid un i ildio heb ymdrech a gwbwl oedd Gwenhwyfar felly, os nad oedd ganddi ddigon a arian i brynu ty, yna byddai'n rhaid iddi adeiladu ty iddi ei hun.

Dyna falch yr oedd hi nawr fod Edwart y garddwr wedi bod mor amyneddgar 'slawer dydd yn dangos iddi sut i gadi sied; achos gyda'r sgiliau hynny ac wedi prynu'r deunyddiau yr unig beth oedd ar ôl i'w wneud oedd dewis Ileoliad i'w thy.

Dewisodd lecyn bach tawel ym mharc y dref, yn agos at y llyn hwyaid a'r pame blode ac o fewn dim roedd ei sied, neu'n hytrach ei chartref, wedi'i chodi a hithau'n glyd oddi mewn.

Ond dyna'i thrydydd camgymeriad. a fewn dim o amser roedd 'na gnoc ar y drws.

Agorodd Gwenhwyfar yn eiddgar i groesawu'r gwestai cyntaf i'w haelwyd newydd gynnes. Un o swyddogion y cyngor oedd yno heb awgrym o wên ar ei wyneb.

"Chewch chi ddim codi eich ty lle fynnoch chi - rhaid Gael caniatâd oddi wrth bobol bwysig y cyngor. Dwi'n siwr ei bod yn glir ichi beth fydd yn digwydd nesaf."

Doedd pethe ddim yn glir i Gwenhwyfar nes i Jac Codi Baw enfawr chwalu ei chartref newydd yn sarn ac wedyn roedd hi'n deall yn iawn.

"Tro nesa sticiwch chi at y rheolau, 'y merch i!" ychwanegodd y swyddog o'r cyngor wrth iddo gerdded tuag at ei swyddfa a gwên fawr o foddhad erbyn hyn yn 'mestyn o un glust i'r llall.

Beth oedd hi i'w wneud nawr?

Unig obaith Gwenhwyfar bellach oedd fod cymorth a ryw fath gan Ganghellor y Trysorlys yn ei gyllideb i'w helpu i brynu ei chartref bach iddi ei hunan.

A wel - dyna ei phedwerydd camgymeriad. . .

Awdur Pennod 3yw Dafydd Pritchard

Prif ddalen y nofel gadwyn


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy