BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Pennod 3
Draw dros y don - Guinness heb fwg
gan Dafydd Pritchard

Erbyn hyn teimlai Gwenhwyfar fod angen brêc arni.

Ni roddwyd iddi'r hawl i godi ei thy ei hun, ac ni allai fforddio prynu unrhyw beth yn ei hardal.

Felly, penderfynodd y câi benwythnos ymlaciol yn Nulyn i godi'i chalon.

Byddai'n mynd yn lled aml yn y gorffennol pan oedd rhagor o sglein ar ei chyfri' banc a llai o dwll yn ei grombil.

A daeth yr ysfa drosti i ymweld unwaith eto â'r ddinas y cafodd gymaint o hwyl ynddi dros y blynyddoedd.

Teimlai erbyn hyn ei bod yn haeddu rhyw hoe fach, a dymunai ail-greu'r dyddiau da' unwaith eto, am un penwythnos o leiaf.

Wrth yrru ei char bach swnllyd i gyfeiriad Caergybi yn oriau mân y bore dechreuodd feddwl sut y byddai Dulyn yn edrych yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach.

Clywodd ddigon am lwyddiant economaidd y lle, am y bobl ifanc yn dewis dychwelyd i Iwerddon ac i'r ddinas, ac am naws gosmopolitan newydd y strydoedd ffraeth ac, wrth gwrs, fod pethau wedi mynd yn ddychrynllyd o ddrud yno.

Prin ddwyawr wedi gadael Caergybi, fe'i taflodd ei hun yn orfoleddus ar y gwely yn ei hystafell yn y gwesty. Doedd o ddim yn westy arbennig o grand ond fe wnâi y tro yn iawn. Doedd hi ddim yn bwriadu treulio gormod o amser rhwng y pedair wal hyn beth bynnag!

Am eiliad neu ddwy daeth rhai o'r atgofion am ei hymweliadau blaenoro â Dulyn i'r meddwl; y ffrindiau, y chwerthin, y troeon trwstan, y cariadon. Ond, buan y 'styriodd hi; deuddydd yn unig oedd ganddi, ac nid gwastraffu amser yn ei hystafell yn y gwesty oedd y bwriad.

Cododd, rhoi ei chôt amdani a chamu'n frwdfrydig allan i'r stryd.

Croesodd un o'r pontydd dros y Liffey, gan ryfeddu at olwg chic Temple Bar roedd y lle yma wedi newid! Dotiodd at y siopau bach chwaethus, a'r prisiau mawr; mwy fyth mewn Ewros meddyliodd.

Ymlaen wedyn at Goleg y Drindod a chrwydro'r campws fel y gwnaeth hi bob cyfle yn y gorffennol. Roedd hi'n teimlo hyd yn oed yn fwy eiddigeddus o'r myfyrwyr y tro hwn, yn cael byw eu bywydau cyffrous yn y lle hyfryd hwn a'u dyfodol yn aros yn eiddgar amdanynt.

Roedd criwiau yn eistedd yma ac acw yn heulwen cynnar y gwanwyn gan siarad a chwerthin, ac eraill yn rhuthro i'w darlithoedd gan gario eu traethodau'n dynn; rhag ofn.

Gadawodd y myfyrwyr bodlon a mynd yn ei blaen tuag at Grafton Street. Gwyddai nad oedd arian ganddi i wneud siopa mawr ond gellir edrych heb dalu a dyna wnaeth hi am awr go dda.

DulynRoedd y stryd hon yn ôl ei harfer yn brysur gan drigolion ac ymwelwyr. Roedd yna gerddorion a phypedwyr yn gwneud arian wrth ddiddanu pawb, a phawb yn barod i gael eu diddanu.

Roedd hi'n barod am wydraid o Guinness. O'Donohue's amdani felly. Roedd y lle'n edrych yn union yr un fath â'r hyn a gofiai syml, llawer o bren, ychydig o siafins ar y llawr.

Ond, na, mi roedd yna wahaniaeth. Doedd dim mwg!

Dyma braf, meddyliodd, wrth gymryd y llowc cyntaf o'r hylif du. Ac yna siom. Sut na sylwodd hi'n syth ni wyddai, ond yn eistedd heb fod nepell ohoni roedd yna bedwar Cymro mewn crysau rygbi.

Dyma'r peth olaf yr oedd hi'n ei ddymuno. Ond, o wrando ar eu sgwrs, gwenodd.

Roedd y pedwar yn trafod Adroddiad Comisiwn Richard!

Yn trafod Adroddiad Comisiwn Richard, mewn crysau rygbi, mewn tafarn di-fwg, ym mhrif ddinas gwlad annibynnol fechan hynod o ffyniannus!

Rhyfedd o fyd, meddyliodd.

A gwenodd uwch ei gwydraid o Guinness.

Prif ddalen y nofel gadwyn


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy