 | Pennod 1 Gwenhwyfar a'r dynion eira gan Angharad Tomos
Cerddodd Gwenhwyfar i lawr Ilwybr yr ardd. Dotiodd at y planhigion. 'Rydych yn nes at Dduw mewn gardd nag yn unman arall dan yr haul', atgoffodd ei hun.
Gresyn nad oedd ganddi hi ardd, neu lain o dir, neu damaid o ddaear j'w hawlio iddi ei hun. Byddai wrth ei bodd yn cael y cyfle i arddio unwaith eto.
Pan yn blentyn, cawsai rwydd hynt i dramwyo Ilwybrau gerddi ei chartref. Byddai'n gwmni cyson i Edwart y garddwr. Yn wir, fo a ddysgodd bopeth a wyddai am flodau a phlanhigion. Gallai ddwyn ei lais yn ôl y funud honno.
"Gwenni fach, drychwch sut yr ydwi'n gosod y gwreiddiau yn ddigon dwfn fel bod ganddynt ddigon o Ie i ymestyn. Dydych chi damaid gwell o'u plannu yn rhy agos at yr wyneb."
Rhoddodd gyfle iddi ddefnyddio fforch a rhaw a chornel fechan i blannu ei blodau ei hun. Pe gwyddai ei Mam ei bod yn treulio cymaint o'i hamser yn chwarae gyda phridd byddai'n wallgof. Nid dyna sut oedd magu ledi.
Mor bell yr ymddangosai'r oes honno yn awr! Cymaint oedd wedi digwydd. Ac roedd y ledi hon wedi landio mewn fflat unig ar y seithfed Ilawr, heb unrhyw gysylltiad â blodau ar wahân i focs bach wrth y ffenest.
Cai wefr anhygoel o weld tyfiant gwyrdd cynta'r flwyddyn yn tyfu rhyw fymryn bob dydd, yn raddol ymddatod i droi yn lili wen fach. Roedd ganddi ryw esgus o hyd i chwarae gyda phridd.Beth ddeuai o'r ardd hon, tybed? Deuai yma mor aml fel y gwyddai am bob cornel ohoni. Carai ddod yma ym mhob tywydd. A hithau yn ganol Chwefror, roedd cawod drom o eira wedi gorchuddio popeth. Hi oedd yr unig ymwelydd yn yr ardd. Wrth y gerddi pellaf, roedd rhes o ddynion eira.
"Helo Gwenhwyfar, chwarae teg i chi ddod heibio i'n gweld," meddai'r dyn eira cyntaf. Roedd ysgub yn ei law. Adwaenodd lais Tomi Glasgoed yn syth. Ef oedd un o'r garddwyr hynaf.
"Beth sydd wedi digwydd i chi, Tomi?" gofynnodd yn bryderus.
"Hwn ydi'r syniad diweddaraf i ddenu ymwelwyr," atebodd Tomi. "Welsoch chi olygfa dristach yn eich byw?"
Cododd y dyn eira agosaf ato ei het. "William Jones ydi o," eglurodd Tomi, "ac Idwal wrth ei ymyl...mae'r rhai hynaf ohonom yn cadw efo'n gilydd. Mae rhyw stynt fel hyn yn iawn i'r Ilanciau ifanc, ond i'n cenhedlaeth ni, mae o'n sarhad. Garddwyr ydan ni, nid clowns." "Mi all fod yn ddigon am eich bywydau," meddai Gwenhwyfar gan estyn ei chrafat i'w roi am ei wddf. "Dyna ddeudais inna wrth Rhodri'r Bos, ond 'run ateb ag arfer oedd ganddo, Aberth bychan iawn ydyw i gadw'r lle ar agor."
Ochneidiodd Gwenhwyfar. Oedd, unwaith eto'r wythnos hon, roeddynt yn bygwth cau giatiau yr Ardd Fotaneg Genedlaethol - am byth y tro hwn, am byth bythoedd.
Awdur y bennod nesaf yw Lyn Lewis Dafis.
Pennod 2
Prif ddalen y nofel gadwyn
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|