BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Esgid Wag
Nofel gyntaf ragorol
Adolygiad Helen Lehain o Esgid Wag gan Mared Lewis

Mynna Esgid Wag gan Mared Lewis eich sylw o'r cychwyn cyntaf.
Mae'r tensiwn a'r cynnwrf cyson o emosiwn yn eich cadw ar bigau'r drain.

Clawr y llyfr Oherwydd y teimladau am y plentyn a lofruddiwyd a'r corff sydd yn parhau i fod ar goll, mae yna bethau sydd heb eu datrys a chwestiynau sydd heb eu hateb.

Tra bo cynefindra'r iaith yn gwneud y llyfr yma'n un sy'n hawdd ei darllen, mae cymhlethdod y cythrwfl emosiynol yn gweithio'n dda er mwyn cynnal diddordeb yn y plot.

Fel dynes, teimlais fod y berthynas rhwng y wraig a'i gŵr a'r fam a'i merch yn berthnasol iawn ac wedi ei arsylwi'n dda.

Roedd yna ddisgrifiadau godidog; er enghraifft:
"yr haul mor ysgafn â mwslin melyn yn taenu'n ysgafn garnaidd dros bob dim, a'r awel yn fflyrtian yn gellweirus efo pawb." (Tudalen 79)

Mae'r disgrifiadau yma sy'n edrych yn ôl dros yr amseroedd da yn ychwanegu at y teimlad o hiraeth sy'n rhedeg drwy gydol y nofel. Roedd y gadael yn ddramatig ond eto'n gredadwy fel sefyllfa 'pen tennyn', a'r disgrifiadau o'r byw o ddydd i ddydd yn Nulyn yn argyhoeddi.

Cafodd Rhian ei defnyddio'n dda i gefnogi'r stori ac i ddod â'r cwbl at ei gilydd. Roedd y diweddglo'n fy modloni 'Not with a bang but a whimper' fel dywedodd T.S. Eliot.

Dyma lyfr nad oeddwn yn medru ei roi i lawr - nofel gyntaf ragorol yn fy marn i.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Mared Lewis
Mwy am Esgid Wag


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy