BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Esgid Wag
Nofel gyntaf awdures o Fôn ydi Llyfr y Mis ar gyfer Mawrth 2005.

Mae Esgid Wag yn sôn am brofiadau cwpl wrth iddyn nhw wynebu deng mlynedd diflaniad eu hunig blentyn, Mali.

"Nofel afaelgar yw hi sy'n ymdrin â llawer o faterion anodd gan gynnwys realiti colli plentyn a'r pwysau sydd yn cael ei roi ar berthynas Joyce ac Ian Parry wrth iddyn nhw ymdrechu i ymdopi â'r golled," meddai llefarydd ar ran y cyhoeddwyr, Gwasg y Dref Wen.

Ganed Mared ym Malltraeth ac y mae hi'n byw gyda'i gŵr a'u dau blentyn yn Llanddaniel, Ynys Môn.

Hyd yn hyn, mae ei gwaith ysgrifennu wedi canolbwyntio ar sgriptio i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.

Meddai Mared: "Dwi'n falch iawn bod Esgid Wag wedi cael ei dewis yn nofel y mis.

"Mwynheais y broses o sgwennu llyfr, oedd yn brofiad hollol newydd i mi. Cefais ryddid creadigol a'r cyfle i fynd i'r afael a phynciau yn fwy dwys nag sy'n bosib mewn sgript deledu 30 munud.

"Mae'n braf cael cydnabyddiaeth am y gwaith, yn enwedig gan mai hon yw fy nofel gyntaf."

"Ychwanegodd i bobl ymateb yn dda iawn i'r nofel.

"Un peth a'm synnodd oedd y ffaith ei bod I'w gweld wedi apelio at gylch llawer mwy o ddarllenwyr nag oeddwn i wedi ei dybio. Do'n i ddim yn meddwl am gynulleidfa benodol wrth ei sgwennu, ond ro'n i'n meddwl wedyn falla byddai hi'n taro deuddeg efo merchaid yn eu tridegau-pedwardegau.

"Ond dwi wedi cael ymateb ehangach hefyd, o sylwadau da gan ferch bymtheg oed hyd at ddyn yn ei wythdegau! Mae o wedi bod yn brofiad diddorol ofnadwy."

Esgid Wag gan Mared Lewis. Gwasg Y Dref Wen. £5.99

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Mared Lewis


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy