
 |  | Cyfnither dlawd Bridget Jones Adolytgiad o Catrin Jones yn Unig
Hefyd ar y ddalen hon: Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau
Dydd Iau, Ionawr 25, 2001
|
I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma:
Neu darllenwch yn gyntaf adolygiad o Catrin Joners yn Unig.
Catrin Jones yn Unig gan Meleri Wyn James. Un o nofelau Cystadleuaeth Nofel 2000 Gwasg Gomer. £6.95.
Adolygiad gan Gaynor Jones.
Does dim yn y byd yn rhoi mwy o foddhad i mi na chychwyn ar siwrnai hir a gwybod y gallaf ymgolli’n lân rhwng cloriau llyfr da.
Felly, gyda siwrnai wyth awr, rhwng Gatwick ac Efrog Newydd o fy mlaen, dyma fi’n setlo lawr mewn rhes gyfyng iawn, (oedd yn gyfle imi ymarfer fy symudiadau loga bob tro ro’n i’n dymuno chwythu fy nhrwyn) i ddarllen Catrin Jones yn Unig.
Fy unig ofid oedd ymgolli mor llwyr yn y llyfr y byddwn yn anghofio twidlo fy nhraed yn ddigon aml er mwyn osgoi ‘Deep Vein Thrombosis’.
Heb ddeall y teitl ‘Catrin Jones yn Unig’ - teitl amwys i ddechrau!
Ai dim ond un Catrin Jones sydd? Ydy Catrin Jones yn berson unig? Neu, ydy Catrin Jones ar ei phen ei hun?
Dwi’n dal heb ddeall y teitl ond wedi i mi orfodi fy hun i gwblhau’r llyfr, hoffwn weld yr awdures yn cael ei dedfrydu i gyfnod hir o solitary confinement mewn lle y gall ddatrys ystyr y teitl a pherffeithio ei harddull ysgrifennu digrif.
Ar ffurf dyddiadur cawn ddilyn helyntion CJ yn ystod y flwyddyn mae’n colli ei thad yn ddisymwth. Am ryw reswm, mae ei thad yn gadael y rhan helaethaf o’i eiddo iddi hi a hynny yn codi gwrychyn ei mam, sydd yn achosi i CJ i symud i fyw at ei sboner.
Yna, cawn gwrdd â’i ffrindiau (prin); ei mam-gu, ei thad-cu a’i chydweithwyr yn y cwmni PR (swnio’n gyfarwydd?) cyn iddi gael y sac, teimlo’n flin dros ei hunan, colli ei sboner a dechrau coleg.
Grêt, dechrau addawol!
Cymeriadau sy'n taro deuddeg Cyfle i ateb cwestiynau am y berthynas rhyngddi hi a’i rhiant; darganfod pam yr esgymunwyd ei mam o’r ewyllys a hefyd i chwerthin am y troeon trwstan sy’n codi yn sgil bywyd gorffwyll CJ a’i ffrindiau/sboner/perthnasau waci … Ym?….
Rheol rhif un wrth ysgrifennu nofel yw creu cymeriadau cyflawn sy’n taro deuddeg. Cymeriadau sy’n ennyn eich diddordeb/empathi ac yn y blaen.
Gwaetha’r modd, nid yw hyn yn wir am "CJ yn unig".
Doedd gen i ddim iot o ddiddordeb ynddi hi na’i chydnabod - ar wahân i’w mam-gu.
Mae’r awdur wedi colli’r cyfle i ddatblygu’r cymeriadau gan roi rhywfaint o hygrededd a rhesymeg y tu ôl i’w gweithredoedd.
Er enghraifft, pam y mae’r fam wedi penderfynu troi’n peroxide blonde a boncio’r athro hunan-amddiffyn?
Pam fod y fam-gu eisiau wig yn anrheg ‘Dolig ac yn chwerthin wrth ddisgrifio y driniaeth mae’i gwr yn ei dderbyn am gancr?
Cyfnither dlawd Bridget Jones Mae’n amlwg fod Catrin Jones yn ail gyfnither dlawd i Ms Jones arall, Bridget.
Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi’r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.
Digon teg yw dilyn fformat llwyddiannus fel Bridget Jones ond rhaid cael y deunydd crai. Hynny yw, ffraethineb, hiwmor a sefyllfaoedd abswrd sy’n taro’r hoelen ar ei phen.
Yn anffodus, ni chwerthais unwaith yng nghwmni Catrin a’I chyfeillion, er falle, nad dyna bwrpas y stori yn y lle cynta.
Mae holl fwriad y llyfr yn ddirgelwch llwyr i mi …
Ar ben hyn oll, cur pen oedd ceisio’i orffen mewn pryd.
Cryfder? Ym - o oes, mae’r iaith yn hwylus i’w ddarllen … a does dim peryg ichi ddatblygu DVT drwy ymgolli’n llwyr ynddo.
Yn bersonol, roeddwn yn falch iawn o’r esgus i ymuno gyda’r dorf oedd yn codi ar eu traed ac yn y martsio o gwmpas yr awyren bob awr. Gaynor Jones
Dyma'r rhest ddiweddaraf o lyfrau sydd wedi cyrraedd y siopau:
Cymraeg a dwyieithog CYFLWYNO'R GYMRAEG - LLAWLYFR I DIWTORIAID: Gol. Christine Jones 1859029035 Gwasg Gomer £9.95 Nodiadau defnyddiol ar gyfer tiwtoriad sydd yn dysgu Cymraeg i oedolion.
CYFRES TEIGR BACH: AROS AMDANA I, TEIGR BACH!: Julie Sykes Addas. Elin Meek Darl. Tim Warnes 1859029264 Gwasg Gomer £3.95 Llyfr stori-a-llun i blant ifanc am Teigr Bach yn gofalu am Teigres Fach.
DRAMÂU SAUNDERS LEWIS - Y CASGLIAD CYFLAWN (CYFROL 2): Saunders Lewis Gol. Ioan M. Williams 0708311830 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Yr ail gasgliad o holl ddramâu Saunders Lewis.
SHOMPA O INDIA: Jean Harrison 0904379434 Cymorth Cristnogol £14.50 Llyfr lliwgar fformat mawr yn rhoi hanes Shompa a’i bywyd yn India.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU THE ART OF SEAMUS HEANEY: Gol. Tony Curtis 1854112562 Seren £12.95 Casgliad o 13 o ysgrifau beirniadol.
COLLECTED POEMS R.S. THOMAS: R.S. Thomas 0753811057 The Phoenix Press £6.99 Casgliad o holl gerddi’r diweddar fardd rhwng 1945 ac 1990.
DEBATING DIALECT - ESSAYS ON THE PHILOSOPHY OF DIALECT STUDY: Gol. Robert Penhallurick 0708316697 Gwasg Prifysgol Cymru £20.00 Ysgrifau ar dafodieithau gwahanol o fewn yr iaith Saesneg.
THE POLITICS OF ITALIAN NATIONAL IDENTITY: Goln. Gino Bedani, Bruce Haddock 0708316220 Gwasg Prifysgol Cymru £40.00 Golwg ar wleidyddiaeth a hunaniaeth genedlaethol yr Eidal.
SUN AND STORM AND OTHER STORIES: Kate Roberts Addas. Carolyn Watcyn 0707403472 Gwasg Gee £5.00 Cyfieithiad o gyfrol Kate Roberts, Haul a Drycin.
WALES ON SCREEN: Gol. Steve Blandford 1854112481 Seren £9.95 Casgliad o ysgrifau yn edrych ar y sîn ffilm Gymreig.
THE WELSH KING AND HIS COURT: Goln. T.M. Charles-Edwards, Morfydd E. Owen, Paul Russell 0708316271 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Astudiaeth o waith y llysoedd yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales

|  | 
|