
 |  | Cyfle i chi ddewis eich hoff gerddi serch ar gyfer llyfr
Hefyd ar y ddalen hon: Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau
Dydd Iau, Ionawr 18, 2001
|
I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma:
Neu darllenwch yn gyntaf am gasgliad Gwasg Gomer o hoff gerddi serch Cymru
Mae Gwasg Gomer yn gwahodd pobl Cymru i ddewis eu hoff gerddi serch Cymraeg i’w cyhoeddi mewn cyfrol ar gyfer y Nadolig nesa.
Cyhoeddir yr apêl ar adeg pan ddylsen ni i gyd fod mewn hwyliau rhamantus - ar drothwy Dydd Santes Dwynwen, a bydd Dydd Sant Ffolant yn dilyn ymhen ychydig.
“Bydd y gyfrol - dan yr enw Hoff Gerddi Serch Cymru - yn dilyn llwybr y gyfrol Hoff Gerddi Cymru a gyhoeddwyd y llynedd,” meddai Bethan Mair Matthews, Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion Gwasg Gomer.
“Bu Hoff Gerddi Cymru yn syfrdanol o boblogaidd ac y mae’n fwriad gennym gyhoeddi sawl casgliad o gerddi gwahanol er mwyn cael cyfres o lyfrau barddoniaeth y bydd pawb yn mwynhau eu darllen.
“Fe gawson ni ymateb da gan y cyhoedd wrth ddewis Hoff Gerddi Cymru, a rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn danfon eu dewis atom ar gyfer y gyfrol hon.
“Roeddwn i’n synnu nad oedd un o gerddi Dafydd ap Gwilym yn y casgliad cyntaf ond efallai y bydd rhywbeth ganddo yn y cerddi serch hyn.”
Mae Bethan yn gwahodd llythyron - Bethan Mair, Gwasg Gomer, Llandysul,Ceredigion; neu negeseuon ffacs ar 01559 363758; neu negeseuon e-bost - [email protected]
“Fe fydd y gyfrol yn anrheg Nadolig delfrydol,” ychwanegodd.
Dyma'r rhest ddiweddaraf o lyfrau sydd wedi cyrraedd y siopau:
Cymraeg a dwyieithog ANTERLIWTIAU HUW JONES O LANGWM: Gol. A. Cynfael Lake 1900437376 Cyhoeddiadau Barddas £14.95 Astudiaeth o fywyd a gwaith un o ffigurau'r ddeunawfed ganrif.
CANHWYLL MARCHOGYON - CYD-DESTUNOLI PEREDUR: Goln. Sioned Davies, Peter Wynn Thomas 0708316395 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol o astudiaethau yn edrych o'r newydd ar chwedl Peredur.
COFRESTRI PLWYF CYMRU / PARISH REGISTERS OF WALES: Goln. C.J. Williams, J. Watts-Williams 1862250227 / 1862250200 Llyfrgell Genedlaethol Cymru £9.95 / £14.95 Y manylion diweddaraf am holl gofrestri plwyf Cymru a’r copïau ohonynt a gedwir gan y Llyfrgell Genedlaethol.
COGINIO GYDA DUDLEY: Dudley Newbery 0862435463 Y Lolfa £8.95 Rhyseitiau ar gyfer pob achlysur gan y cogydd teledu poblogaidd.
DAWN DWEUD: DANIEL OWEN: Robert Rhys 0708313418 Gwasg Prifysgol Cymru £12.99 Cyfrol yn adrodd hanes bywyd Daniel Owen ac yn trafod ei brif weithiau.
FFRWD CEINWEN: William R. Lewis 0948469722 Gwasg Taf £5.95 Drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1999.
HELYG AR YR AFON Camilla Ashforth 1902416368 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £5.50 Llyfr stori-a-llun am ddau dedi yn cael antur ar yr afon.
IAITH LAFAR BRYCHEINIOG: Glyn E. Jones 0708316409 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Astudiaeth o ffonoleg a morffoleg iaith lafar Brycheiniog.
LLÊN Y LLENOR: ROBIN LLYWELYN: Angharad Price 1903314070 Gwasg Pantycelyn £4.00 Astudiaeth o waith yr awdur Robin Llywelyn.
MAWL A'I GYFEILLION - CYFROL 1: R.M. Jones 1900437449 Cyhoeddiadau Barddas £14.95 Beirniadaeth lenyddol yn trafod y traddodiad barddol.
OWEN GETHIN JONES - EI FYWYD A'I FEIAU: Vivian Parry Williams 0863816657 Gwasg Carreg Gwalch £6.00 Hanes bardd, hynafiaethydd ac adeiladydd o fri yn Nyffryn Conwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
STRAEON SALI MALI: 1. TEISEN I DE Siân Lewis 1902416422 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £2.99 Un o gyfres o storïau newydd am y cymeriad poblogaidd i blant.
STRAEON SALI MALI: 2. TRAED BUDR Siân Lewis 1902416449 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £2.99 Un o gyfres o storïau newydd am y cymeriad poblogaidd i blant.
STRAEON SALI MALI: 3. CWYMP Y DAIL Siân Lewis 1902416430 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £2.99 Un o gyfres o storïau newydd am y cymeriad poblogaidd i blant.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU DEAD LONG ENOUGH: James Hawes 0099759810 Jonathan Cape £6.99 Nofel gyfoes gan awdur Rancid Aluminium.
EDUCATION POLICY-MAKING IN WALES: EXPLORATIONS IN DEVOLVED GOVERNANCE: Goln. Richard Daugherty, Robert Phillips, Gareth Rees 0708316328 Gwasg Prifysgol Cymru £25.00 Cyfrol o ysgrifau yn astudio i ba raddau y mae addysg yng Nghymru wedi datblygu’n wahanol i Loegr.
GREAT WELSH FANTASY STORIES: Gol. Peter Haining 0863816185 Gwasg Carreg Gwalch £6.90 Storïau yn seiliedig ar chwedlau Cymreig traddodiadol.
HEIRS OF SALVATION - STUDIES IN BIBLICAL ASSURANCE: D. Martyn Lloyd-Jones 1850491747 Gwasg Bryntirion Press £4.50 Astudiaethau ar gryfder ffydd mewn Cristnogion.
HERITAGE, PLACE AND COMMUNITY: Bella Dicks 0708316689 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Y defnydd a wneir o dreftadaeth i adfywio hen ardaloedd diwydiannol.
LANGUAGE REVITALIZATION - POLICY AND PLANNING IN WALES: Gol. Colin H. Williams 0708316670 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Astudiaeth o greu polisïau ac adfywiad iaith.
ONE WOMAN, ONE VOICE: Gol. Hazel Walford Davies 1902638085 Parthian Books £6.99 Monologau gan Lucy Gough, Christine Watkins, Lucinda Coxon a Sharon Morgan.
REFORMATION: YESTERDAY, TODAY AND TOMORROW: Carl R. Trueman 1850491755 Gwasg Bryntirion £4.95 Testun y ddarlith a draddodwyd mewn cynhadledd ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni.
SWANSEA REMEMBERED Gol. David Roberts 1859832040 Breedon Books £12.99 Casgliad o hen luniau yn dangos Abertawe’r gorffennol.
TERROR FIRMA: Matthew Thomas 0007100221 HarperCollins £5.99 Nofel gyfoes a dychanol.
WRITERS OF WALES SERIES: ARTHUR IN MEDIEVAL WELSH LITERATURE: O.J. Padel 0708316824 Gwasg Prifysgol Cymru £5.99 Astudiaeth o gyfeiriadau at Arthur mewn llenyddiaeth ganoloesol.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales

|  | 
|