I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:
Neu darllenwch am y ddau lyfr Nadolig yn gyntaf:
gan Gwyn Griffiths
Golau ar y Goeden - Arferion, Straeon a Cherddi Nadolig gan Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch £6.
O Achos Y Mab Bychan gan Emyr Edwards. Gwasg Carreg Gwalch. £4.75.
Mae’r gyfrol Golau ar y Goeden yn cynnig deunydd defnyddiol i athrawon ysgolion cynradd yn yr wythnosau hynny cyn y Nadolig.
Arferion Ewrop
Ceir ynddi gasgliad o straeon ac arferion difyr dros ben ac iddyn nhw naws traddodiadau Ewrop - Gogledd Ewrop yn benodol.
Bydd y straeon hyn yn sicr o apelio’n fawr at y plant lleiaf - chwedlau fel y rheini am yr anifeilaid a fu’n garedig wrth y teulu bach yn y stabl.
Chlywais i erioed o’r blaen y stori am y gath yn dod at y preseb a sut y bu i Mair roi caniatâd iddi adael y goedwig a dod i fyw ymhlith pobol.
Mae amryw gerddi newydd, difyr, yn y gyfrol, y rhan fwyaf i’w hadrodd ond ambell un i’w chanu.
Lluniau hen ffasiwn
Buaswn wedi dymuno gweld cyfrol y buasai plant yn ei defnyddio eu hunain fel cyfeirlyfr. Ond rwy’n ofni fod y diwyg a’r darluniau lliw yn perthyn i oes o’r blaen ac na fydd yn apelio digon at ddisgyblion i’w denu i wneud hynny.
Wedi dweud hynny, bydd croeso i’r gyfrol ymysg athrawon dosbarthiadau iau yr ysgolion cynradd.
Awdur Golau Ar Y Goeden yw Myrddin ap Dafydd a chyhoeddwyd y gyfrol ganei wasg, Gwasg Carreg Gwalch, pris £6.
Eto, mae athrawon bob amser yn chwilio am ddulliau newydd o gyflwyno stori’r Nadolig - neu unrhyw stori sy’n amserol o ran hynny.
Dramau ar gyfer y Nadolig
Pump o ddramau ar thema’r Nadolig yw’r gyfrol O Achos y Mab Bychan gan Emyr Edwards. Dramau, yn ôl y broliant, wedi eu hanelu at ysgolion cynradd ac Ysgolion Sul.
Mae Mr Edwards yn awdur - a chyfieithydd - llu o ddramau ac operau roc ar gyfer plant a phobol ifanc, ac wedi cynhyrchu llawer ohonyn nhw ei hunan.
Felly, gallwn fod yn hyderus fod y rhain wedi eu profi ar lwyfan a bod siawns go dda y byddan nhw’n gweithio.
Gair mawr i blant bach!
Maen nhw’n gyfuniad defnyddiol o’r traddodiadol a’r cyfoes. Y chwedl Rwsiaidd, Babwshca, er enghraifft. Cafwyd cynhyrchiad ardderchog o’r stori hon, gyda llaw, gan Adran Addysg BBC Cymru rai blynyddoedd yn ôl.
O’r braidd ceir gormod o areithio yn fersiwn Emyr Edwards - gwendid a welir yn y dramau eraill hefyd - ond byddai unrhyw gynhyrchydd yn medru eu addasu yn bur hwylus.
Ceir yma fersiwn fodern o stori’r geni, Y Ddinas Ddihenydd, wedi ei gosod yn Efrog Newydd - a chymryd fod yna blentyn yn rhywle a fydd yn deall y gair Dihenydd yna.
Stori gyda chymeriadau amrywiol - gangstars, pobol yn byw mewn bocsys cardbord, twristiaid, cyflwynwyr teledu, ac ati.
Jac yn dal ar y to!
Rhyfedd, wedyn, gweld y ddrama nesa’n y gyfrol, Pwy sy’ wedi dwyn y Nadolig?, yn dechrau gyda chân i’w chanu ar dôn Jac y Do!
Rwy’n credu fod cerddoriaeth yr oed iau wedi symud rywfaint o’r oes yna!
Ond fel y dywed yr awdur, mae pob croeso i arbrofi ac addasu’r deunydd yn ôl y galw. Cyhoeddir O Achos Y Mab Bychan gan Carreg Gwalch, pris £4.75. Bargen dda, fan’na goelia i.
Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:
Cymraeg a dwyieithog
CAM DDOLIG!: Mari Gwilym Darl. Dylan Thomas 0862435307 Y Lolfa £3.95 Stori wreiddiol, hwyliog i blant tua 8-10 oed.
CAROLAU CARYL: Caryl Parry Jones 0863816312 Gwasg Carreg Gwalch £4.95 Chwe charol Nadolig yn cynnwys trefniannau piano a chordiau gitâr.
CATHOD A CHWN: Mihangel Morgan 0862435293 Y Lolfa £6.95 Casgliad o straeon byrion cyfoes a dychanol.
CERDDI IDWAL LLOYD: Idwal Lloyd Darl. Chris Neale 1859028977 Gwasg Gomer £4.95 Casgliad gan y bardd o ardal Abergwaun.
CYFRES DISNEY: TYLWYTH TEGANAU: Addas. Esyllt Penri 1899877118 Y Ddraig Fach £2.50 Addasiad o'r stori boblogaidd Toy Story i blant bach.
CYFRES DISNEY: TYLWYTH TEGANAU 2: Addas. Dafydd Jones 1899877177 Y Ddraig Fach £2.50 Addasiad o'r stori boblogaidd Toy Story 2 i blant bach.
CYW YN Y CAWL: Addas. Dafydd Jones 1899877169 Y Ddraig Fach £2.50 Addasiad o'r stori Chicken Run i blant bach.
CYWION UFFERN: Sonia Edwards 0860741672 Gwasg Gwynedd £3.95 Nofel wreiddiol i rai yn eu harddegau.
GRAMADEG CYMRAEG CYFOES / CONTEMPORARY WELSH GRAMMAR: 1859026729 Gwasg Gomer £5.95 Argraffiad newydd o'r llyfr gramadeg.
GWLADFA PATAGONIA / LA COLONIA GALESA DE PATAGONIA / THE WELSH COLONY IN PATAGONIA 1865-2000: R. Bryn Williams Addas. Nan Griffiths, Lowri W. Williams 0863816533 Gwasg Carreg Gwalch £4.25 Hanes yr ymfudo mewn tair iaith.
HELYNT A HEULWEN: O. Arthur Williams 1903314119 Gwasg Pantycelyn £5.00 Hanes Cwmni Drama Llangefni, 1929-1949.
HOFF GERDDI CYMRU: Gol. Bethan Mair Matthews 1859028233 Gwasg Gomer £5.95 Casgliad o gerddi mwyaf poblogaidd Cymru, yn seiliedig ar ymateb y cyhoedd. Adargraffiad.
LLYFRAU LLAFAR GWLAD: 49. O GRAIG YR EIFL I AMERICA: Ioan Mai 0863816339 Gwasg Carreg Gwalch £3.50 Hanes y diwydiant ithfaen ar ddwy ochr y Môr Iwerydd.
STRAEON CYMRU: 10. RHITA GAWR: Esyllt Nest Roberts Darl. Carys Owen 086381624X Gwasg Carreg Gwalch £3.50 Stori werin wedi ei haddasu ar gyfer plant ifanc.
SYR JOHN MORRIS-JONES, 1864-1929: John Lasarus Williams 0952526727 John Lasarus Williams £6.99 Portread o'r bardd a'r ysgolhaig, gyda disgrifiad o'i gefndir ef a'i deulu.
TÂN AR Y COMIN: T. Llew Jones 1859020399 Gwasg Gomer £5.95 Anturiaethau un o blant y sipsiwn yn dilyn marwolaeth ei dad-cu. Adargraffiad.
Llyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig
ARTHURIAN LITERATURE IN THE MIDDLE AGES: ARTHUR OF THE GERMANS, THE: Goln. S.A. Ranawake, W.H. Jackson 070831595X Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Ymdriniaeth fanwl o lenyddiaeth Arthuraidd yn Almaeneg ac Isalmaeneg.
THE DRAGON AWAKES, - THE REBIRTH OF A RUGBY NATION: Andrew Williams 1840183284 Mainstream Publishing £15.99 Llyfr yn adrodd hanes trawsnewidiad ym mherfformiadau tîm rygbi Cymru.
THE DRAGON ENTERTAINS- 100 WELSH STARS: Alan Roderick 1903529026 Glyndwr Publishing £12.99 Cyfrol ar Gymry amlwg.
IN AND OUT OF THE GOLDFISH BOWL: Rachel Trezise 1902638077 Parthian Books £5.99 Nofel yn portreadu caledi bywydau plant yn y Rhondda.
THE MABINOGION: Addas. Lady Charlotte Guest Darl. Alan Lee 0261103911 HarperCollins £25.00 Fersiwn o'r chwedlau gyda thros 50 o ddarluniau lliw-llawn.
PEOPLE OF WALES, THE Goln. Gareth Elwyn Jones, Dai Smith 1859027431 Gwasg Gomer £9.95 Hanes Cymru drwy'r mileniwm. Adargraffiad.
PONT READALONE: HERO, TOFFER AND WALLABY: Malachy Doyle 1859028454 Pont Books £3.50 Stori am blant yn clywed am hanes bywyd dieithryn dirgel.
THE RAILWAYS OF WALES: CIRCA 1900: Gwyn Briwnant Jones, Denis Dunstone 1859028683 Gwasg Gomer £25.00 Adolygiad darluniadol o reilffyrdd Cymru.
WREXHAM BUS COMPANIES - A COLLECTION OF PICTURES: Mike Edge 1872424880 Bridge Books £7.95 Hanes dros 50 o gwmnïau bysiau fu'n gweithredu yn ardal Wrecsam. bbb
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales
