bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y rhestr ddiweddaraf o lyfrau
sydd ar werth

Ac adolygiad o lyfr
am y Blaid Lafur

Dydd Iau, Awst 3, 2000


I fynd yn syth i gychwyn y rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma


Mae Geraint Vaughan Jones yn prysur ddod yn hen law ar ennill Gwobr Goffa Daniel Owen. Enillodd gyda Yn y Gwaed (1990), Semtecs yn 1998 a Cur yn y Nos, eleni, y drydedd i ennill y wobr.

Mae hon yn nofel sy’n cydio’n hypnotig yn nychymyg y darllenydd - does dim modd ei rhoi o’r neilltu.

Nofel ddi-bennod yw hi a rhaid ei darllen ar un eisteddiad - ac fe wnes i hynny o ddewis. Hawliodd fy sylw am ddiwrnod cyfan. Roedd yn rhaid i mi gael gwybod beth fyddai tynged Robert Cairns.

Nofel gyffro, seicolegol, yw hon gyda Robert Cairns, cyn ei ymddeoliad, yn rheolwr cwmni llongau a phennaeth marchnata cwmni electronig.

Mae ei fam yn dymuno iddo olrhain achau’r teulu ac o wneud yn ôl ei dymuniad mae’n mynd i ganol dirgelion yn ymwneud â hanes eu gyn-deidiau. Wrth geisio’i ddatrys mae’n canfod hanes cyfres o lofruddiaethau yng nghyffiniau Lerpwl ar droad y ganrif. Drwy chwilota mewn archifdai a llyfrgelloedd mae’r darnau’n disgyn i’w lle.

Ond nid nofel am ddyn yn ei chwedegau yn chwilota mewn llyfrgelloedd ydy hon. Mae stori arall yn cydredeg â hi - sef obsesiwn rhywiol Cairns gyda’i gyn-ysgrifenyddes, Katherine Forden. Caiff ei boenydio yn feddyliol am y garwriaeth a fu. Myn wybod popeth a wna a hynny bob awr o’r dydd a’r nos.

Drwy ei ffonio hi bob awr o’r dydd a’r nos mae’n amlwg y daw rhyw ddrwg o’r obsesiwn.

Llwydda’r nofel i greu darlun trist o’r math o gymdeithas a fodolai yn Bootle yn y 1940au - tlodi mawr, plant yn llwgu a marw o’r diciâu, tadau’n ddiffrwyth o ganlyniad i anafiadau rhyfel a mamau dagreuol yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd. Yr un math o gymdeithas ag oedd yn nodweddu ardal Bethesda yn Un Nos Ola leuad gan Caradog Prichard.

Mae’n nofel glyfar sy’n procio’r darllenydd yn barhaus. Does dim modd rhagweld y diweddglo - a phan ddatgelir y cyfrinachau fe wneir hynny’n ysgytwol. Gwaith gafaelgar sy’n dangos pam fod Geraint V. Jones yn rheng flaen nofelwyr Cymraeg y ganrif.

Cyhoeddir Cur y Nos, Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen 2000, gan Wasg Carreg Gwalch, pris £7.00.



Ac yn awr dyma restr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau diweddaraf i gyrraedd y siopau.



LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG

A 'BOOK OF MAD CELTS': Marion Löffler 1859028969 Gwasg Gomer £7.95 Llyfr dwyieithog yn adrodd hanes John Wickens a Chyngres Geltaidd Caernarfon 1904.

BYGI-BYTIS: FY LLIWIAU:
1855964449 Dref Wen £2.99 Llyfr gair-a-llun i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.

BYGI-BYTIS: FY RHIFAU:
1855964430 Dref Wen £2.99 Llyfr gair-a-llun i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.

CERDDI CWRS Y BYD:
Wynne Ellis 1900437406 Cyhoeddiadau Barddas £7.95 Cyfrol o gerddi dychanol am fyd y beirdd.

CERDDI'R TROAD - BARDDONIAETH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Dafydd Rowlands 1859028179 Gwasg Gomer £7.95 Cerddi gwreiddiol gan feirdd cyfoes wedi eu hysgrifennu i ddathlu'r mileniwm.

CEWRI CAMPAU CYMRU: Gol. Alun Wyn Bevan 1859028217 Gwasg Gomer £8.95 Llyfr yn llawn lluniau a hanesion am enwogion byd chwaraeon yng Nghymru.

COFIO HANNER CANRIF - HANES MUDIAD EFENGYLAIDD CYMRU 1948-98: Noel Gibbard 1850491739 Gwasg Bryntirion Press £9.95 Cyfrol yn dathlu hanner can mlynedd o'r Mudiad Efengylaidd yng Nghymru.

CUR Y NOS:
Geraint V. Jones 0863816495 Gwasg Carreg Gwalch £7.00 Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU LLANELLI 2000: 0953855406 Llys yr Eisteddfod (De) £4.50 Cynnyrch llenyddol buddugol a beirniadaethau'r Eisteddfod.

CYFRES BARA'R BYWYD: 36. EFENGYL IOAN: Edmund Owen 1850491720 Gwasg Bryntirion £1.95 Esboniad byr, syml ar gyfer pob dydd o'r mis.

CYFRES CELF CYMRU 2000: ANEURIN: Gol. Emyr Llywelyn 086243534X Y Lolfa £19.95 Llyfr o waith Aneurin Jones.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: ANTHEM GENEDLAETHOL, YR / THE NATIONAL ANTHEM:
Aeres Twigg 1859028853 Gwasg Gomer £1.95 Hanes yr Anthem Genedlaethol, gyda nifer o luniau lliw. Llyfr dwyieithog.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: DDRAIG GOCH, Y / THE RED DRAGON: Aeres Twigg 1859028861 Gwasg Gomer £1.95 Hanes cefndir mabwysiadu'r ddraig goch yn symbol cenedlaethol. Llyfr dwyieithog.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: SOSBAN FACH:
Aeres Twigg 185902887X Gwasg Gomer £1.95 Hanes y gân rygbi enwog. Llyfr dwyieithog.

CYFRES LLYFFANTOD: VIVA CYMRO!:
Meinir Pierce Jones Darl. Elwyn Ioan 185902713X Gwasg Gomer £4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.

CYFRES Y CYMOEDD: CWM GWENDRAETH: Gol. Hywel Teifi Edwards 1859028918 Gwasg Gomer £13.95 Cyfrol yn olrhain hanes y cwm lle cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2000.

ELFED - CAWR AR GOESAU BYR: Ioan Roberts 0862435277 Y Lolfa £5.95 Cyfrol goffa i Elfed Lewis y baledwr.

FFRINDIAU: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028578 Gwasg Gomer £5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori am ffrindiau; ar gyfer plant dan 7 oed.

GYDA'R GODRE: Tecwyn Ellis 0000870684 Tecwyn Ellis £7.50 Atgofion yr awdur, sydd yn hanu o’r Bala.

IESU'R IDDEW A CHYMRU 2000: Pryderi Llwyd Jones 0862435439 Y Lolfa £6.95 Cyfrol gan weinidog adnabyddus, yn cyflwyno Iesu i ni heddiw.

Y LLAFN GOLAU:
Vernon Jones 185902873X Gwasg Gomer £4.95 Cyfrol o gerddi newydd, teimladwy gan y bardd o ardal Aberystwyth.

LLYFRAU LLAFAR GWLAD:46. 'FYL'NA WEDEN I’: Huw Evans, Marian Davies 0863816304 Gwasg Carreg Gwalch £4.25 Blas ar dafodiaith canolbarth Ceredigion.

NEWID AELWYD - LLYFR 5 O HELYNTION TOMOS A MARGED:
W.J. Gruffydd Darl. Tegwyn Jones 1859028276 Gwasg Gomer £4.95 Straeon am y cymeriadau poblogaidd oddi ar y gyfres ar Radio Cymru.

NOFELAU NAWR: CADWYN O FLODAU: Sonia Edwards 1859028632 Gwasg Gomer £3.50 Nofel i ddysgwyr am Lia, sydd wedi ei chaethiwo mewn priodas anhapus.

O HENDREFIGILLT I LIVORNO: T. Gwynfor Griffith 1859028195 Gwasg Gomer £9.95 Hanes Llewelyn Lloyd, un o artistiaid pwysicaf Cymru a'r Eidal.

OWAIN A'R ROBOT: Ian Whybrow Addas. Emily Huws Darl. Adrian Reynolds 1859028594 Gwasg Gomer £4.50 Stori ddifyr i blant dan 7 oed.

PAWB GYDA'I GILYDD: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028586 Gwasg Gomer £5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori; ar gyfer plant dan 7 oed.

RHUBAN GLAS, Y - GWOBR GOFFA DAVID ELLIS 1943-2000: R. Alun Evans 1859028942 Llys yr Eisteddfod (De) £4.95 Hanes y Rhuban Glas, a nodiadau ar bob un a’i enillodd rhwng 1943 a 2000.

RHUBANAU DUR / RIBBONS OF STEEL: Jon Dressel, T. James Jones 1859028896 Gwasg Gomer £5.00 Cerdd wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan y ddau fardd i ddathlu Eisteddfod Llanelli.

STORÏAU'R TROAD - RHYDDIAITH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Manon Rhys 1859028039 Gwasg Gomer £9.95 Deunaw o storïau byrion gan awduron cyfoes yn trafod dathlu'r mileniwm.

SWS I SEREN: Phyllis Root Addas. Meinir Pierce Jones Darl. Will Hillenbrand 1859028810 Gwasg Gomer £5.50 Rhaid i Cadi Mai roi sws i Seren y fuwch hud i ddiolch am ei llaeth melys.

TRI MOCHYN BACH: Eirug Wyn 0862435536 Y Lolfa £5.95 Cyfrol y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU

THE ADVENTURES OF A ROMANTIC:
Bernard Jay 1873827504 Logaston Press £9.95 Stori am y gwrthgyferbyniad rhwng henoed ac ieuenctid, ffantasi a realiti.

CELTIC POETS, THE - SONGS AND TALES FROM EARLY IRELAND AND WALES:
Trans. Patrick K. Ford 0926689053 Ford & Bailie, Publishers £15.00 Casgliad o gerddi o'r Canol Oesoedd, gyda chyfieithiadau.

CELTIC TRAIL, THE - WEST - SWANSEA TO FISHGUARD / LÔN GELTAIDD - GORLLEWIN - ABERTAWE I ABERGWAUN: 1901389138 Automobile Association £5.99 Map ac arweinlyfr i'r lôn feiciau o Abertawe i Abergwaun.

LITTLE BLUE GROWS UP - A STORY FROM DRAGON KINGDOM:
Sandra Alich Storr Ill. Oliver Mundy 0953878503 Preserves and Books £4.95 Stori am deulu o ddreigiau sydd yn byw ar fwyd dreigiau hudol iachus iawn!

GRACE, GRIT AND GUMPTION - SPIRITUAL REVIVAL IN SOUTH WALES: Geraint Fielder 1857925009 Gwasg Bryntirion Press £6.99 Hanes John Pugh, Seth Joshua a Frank Joshua.

HOPPERS SERIES: LOOKING FOR CYMRO: Meinir Pierce Jones Trans. Ann Saer Ill. Elwyn Ioan 1859027628 Pont Books £4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.

THE LABOUR PARTY IN WALES 1900-2000: Eds. Duncan Tanner, Chris Williams, Deian Hopkin 0708315860 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Cyfrol ar hanes y Blaid Lafur yng Nghymru, ar achlysur ei chanmlwyddiant.

MORE WALKS ON THE CLWYDIAN HILLS:
David Berry 1902302109 Kittiwake £3.95 Pymtheg o deithiau cerdded yn ardal Bryniau Clwyd.

REJOICE IN YOUR OWN WORKS:
Ange S. Vlachos Trans. John Fitzgerald Ill. Paul S. Vlachos 1898685312 Philomel Productions Limited £9.99 Cyfrol o fyfyrdodau mewn pump o ieithoedd gwahanol.

REMINISCENCES OF WALES 1924-1942:
Nathan Hughes 0970315406 Welsh Dragon Publishing £15.00 Atgofion yr awdur, sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau.

WELSH CASTLES - A GUIDE BY COUNTIES:
Adrian Pettifer 0851157785 Boydell and Brewer £25.00 Arweinlyfr i gestyll Cymru fesul sir, gyda hanes byr pob un.

THE WELSH SALE:
0000873012 Sotheby's £2.00 Manylion yr eitemau a werthwyd mewn ocsiwn ym Mharc Margam, 19 Hydref 1999.

WILD BRITAIN - A TRAVELLER'S GUIDE:
Douglas Botting 1873329318 Sheldrake Press £12.50 Arweinlyfr yn cynnwys lluniau lliw-llawn, diagramau a mapiau.

WOMEN AND GENDER IN EARLY MODERN WALES:
Eds. Michael Roberts, Simone Clarke 070831550X Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol yn trafod profiadau cymdeithasol a diwylliannol merched yng Nghymru.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales
News image

Wythnosau Blaenorol:

News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy