Mae Y Goeden Greu yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:
- Astro Antics (Cymraeg Ail Iaith)
- Camau Cyfri (Mathemateg)
- Doctor Dot (Gwyddoniaeth)
- Peiriant Amser (Hanes)
Dewch i gael hwyl gyda iaith! Mae Y Goeden Greu yn cynnwys storïau lliwgar wedi eu hanimeiddio, caneuon gan grŵp o greaduriaid rhyfedd ond cyfeillgar a cherddi gan rai o feirdd plant gorau Cymru. Mae yna hefyd weithgareddau creadigol a diddorol i gyd-fynd â'r rhain i gyd.
Mae pedair stori:
• Mami Wata gan Jan Blake (Addaswyd gan Eirlys Eckley)
• Jîni y Darten Geirios gan Christina Shingler (Addaswyd gan Elin Meek)
• Jac Do gan Gwenno Hughes
• Chwilio am yr Haul gan Rob Lewis (Addaswyd gan Elin Meek)
Mae modd gwylio neu ddarllen y storïau cyn mynd ati i wneud gweithgareddau trefnu, newid a chreu stori.
Er mwyn gwylio fersiwn sgrin lawn o'r storïau, ewch at y dudalen fideos
Mae pedair cân yn cael eu canu gan bedwar cymeriad rhyfedd:
• Cân Ychapych
• Baled Beni Waered
• Rap Gwditwhw
• Cân Rwbi Dwbi
Gallwch chi ddewis geiriau newydd ar gyfer pob cytgan a dewis gwisgoedd y cymeriadau.
Mae pedair cerdd:
• Bachgen Da Ofnadwy gan Ceri Wyn Jones
• Diwrnod Diflas Du gan Myrddin ap Dafydd
• Sôs Coch gan Tudur Dylan Jones
• Ysgol yr Adar Bach gan Mererid Hopwood
Gwrandewch ar ymateb Ychapych, Beni Waered, Gwditwhw a Rwbi Dwbi i'r cerddi ac yna rhoi eich ymateb chi trwy gyfrwng testun a lluniau.
Cymorth sain a gweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Dydy hi ddim yn bosib mynd at y dewisiadau yma tra eich bod chi yn yr adran Rhieni ac Athrawon.
Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio bysell Tab.