Lles Personol
Bydd myfyrwyr yn dysgu nodi a mynegi emosiynau, er mwyn rheoli sefyllfaoedd newydd neu anodd yn effeithiol, a byddant yn dysgu pa mor bwysig yw meithrin perthynas sefydlog a chadarnhaol â phobl. Drwy drafod materion cymdeithasol a moesol, bydd myfyrwyr yn archwilio eu gwerthoedd personol eu hunain. Mae pob un o'r meysydd astudio yn dolennu at straeon fideo gydag adnoddau dysgu i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Perthnasau

Drwy feithrin perthynas sefydlog â phobl, bydd myfyrwyr yn cael cefnogaeth ac arweiniad a fydd yn eu helpu i ymdopi mewn cyfnodau o newid a straen. Mae'r gallu i feithrin a chynnal perthynas gefnogol â phobl yn hanfodol er mwyn llwyddo i fyw bywyd iach, i gynnal y ffordd honno o fyw ac i'w mwynhau.

