IR35 - gwybodaeth ar gyfer cyfranwyr ar yr awyr

Darganfyddwch beth mae newidiadau’r llywodraeth i’r rheolau treth IR35 yn olygu i gyfranwyr ar yr awyr.

Mae'r Llywodraeth, trwy gyfrwng CThEM, wedi gwneud newidiadau i’r rheolau treth IR35. Mae hyn yn effeithio’r holl sector cyhoeddus o Ebrill 2021.

Mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau ar ei wefan.

Beth yw IR35?

Mae IR35 neu Ddeddfwriaeth Canolwyr (‘Intermediaries’) yn gyfraith dreth yn y DU.

Mae'n ymwneud â threth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) y rhai sy'n darparu gwasanaethau i gleient trwy gyfrwng Cwmni Gwasanaeth Personol (CGP) neu ganolwr arall e.e. partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Os bydd IR35 yn weithredol i ymrwymiad gwaith, yna rhaid trin y ffi ymrwymo fel “incwm cyflogaeth” at ddibenion treth a telir treth incwm dan TWE a CYG i CThEM.

Os nad yw IR35 yn weithredol, yna gellir talu'r ffi gros i’r CGP a gall y CGP benderfynu a ddylid talu hwn fel “incwm cyflogaeth”.

Beth sydd wedi newid?

Gan ddod i rym ym mis Ebrill 2017, rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys y BBC, nawr asesu “statws cyflogaeth” pob ymrwymiad at ddibenion treth, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cytundebu trwy CGP, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau treth ac Yswiriant Gwladol.

Yn flaenorol, pan oedd yr ymrwymiad gyda CGP, y CGP oedd yn gyfrifol am yr asesiad hwn. Dan y ddeddfwriaeth newydd, trosglwyddwyd y rwymedigaeth gyfreithiol dros bennu'r statws cyflogaeth at ddibenion treth, i'r BBC.

Pan fydd y prawf statws cyflogaeth yn penderfynu bod ymrwymiad yn “gyflogedig” at ddibenion treth yna bernir bod y ffi ymrwymo yn “incwm cyflogaeth” at ddibenion treth a bydd y BBC yn didynnu treth dan TWE a CYG y cyflogai.

Pwy fydd hwn yn effeithio arnynt?

Mae IR35 yn weithredol i gyfranwyr ar yr awyr, megis cyflwynwyr yn ogystal â gweithwyr llawrydd oddi ar yr awyr fel datblygwyr, sy'n darparu eu gwasanaethau trwy gyfrwng canolwr.

Ceir eithriadau, er enghraifft; rolau a gymeradwywyd yn benodol gan CThEM megis actorion a pherfformwyr (sy'n cael eu cynnwys yn nodyn arweiniad ESM4121 CThEM), diddanwyr tramor (sy'n cael eu cynnwys yn rheolau'r Uned Diddanwyr Tramor) a chyfranwyr sy'n byw mewn gwlad dramor at ddibenion treth ac sy'n darparu eu gwasanaethau y tu allan i'r DU yn gyfan gwbl.

Unigolion (masnachwyr unigol)

Ni chaiff unigolion nad ydynt yn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng canolwr eu cynnwys o fewn IR35.

Fodd bynnag, mae gan y BBC eisoes ddyletswydd i asesu statws cyflogaeth unigolyn at ddibenion treth am bob ymrwymiad. 

Cwmnïau Gwasanaeth Personol

Nid yw CGP a Chanolwyr eraill yn gyfrifol am asesu statws cyflogaeth i ddibenion treth ar gyfer ymrwymiadau gyda chyrff cyhoeddus.

Fodd bynnag, maent yn parhau i fod yn gyfrifol am asesu statws cyflogaeth i ddibenion treth ar gyfer ymrwymiadau’r sector breifat hyd at Ebril 2021.

IR35 SESIYNAU BRIFFIO – Haf 2017

Comisiynwyd cwmni Deloitte gan y BBC i ddarparu sesiynau briffio annibynnol i unigolion y gallai’r newidiadau treth IR35 a/neu gyflwyno’r prawf CEST effeithio arnynt. Am rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch y sleids a gwyliwch y fideo o'r sesiwn a gynhaliwyd yn Llundain isod.

Deloitte Presentation from June 2017: Employment Status and "Off-payroll working in the public sector"

Trafodaethau CThEM [HMRC] / Datganiadau Amod 80

Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda CThEM er mwyn darparu manylion pendant am driniaeth treth parthed y ffioedd mae’r BBC yn ei dalu i gyflwynwyr.

Tra bod y trafodaethau hyn yn parhau bydd CThEM yn danfon asesiadau amddiffynnol a elwir yn Benderfyniadau Amodau 80 (Regulation 80 determinations) ar gyfer 2014/15.

Rydym wedi ysgrifennu at bawb y gallasai hyn effeithio gyda manylion pellach. I ddarganfod mwy darllenwch y cwestiynau amlycaf (FAQ).

IR35 - Rheoliad 80 Webinar 16/04/2019

Comisiynodd y BBC Deloitte i ddarparu gweminar ar gyfer unigolion a dderbyniodd penderfyniadau Rheoliad 80 ar gyfer blwyddyn dreth 2014-15. Mae'r gweminar yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin, gan esbonio pam mae penderfyniadau Rheoliad 80 wedi'u cyhoeddi a beth yw eich opsiynau os ydych chi'n derbyn un, e.e. prun ai i apelio neu setlo.

Mae'r gweminar hwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran y setliad arfaethedig gyda Chyllid a Thollau EM a'r hyn y gallai hyn ei olygu i chi.

Am fwy o wybodaeth,lawrlwythwch y sleidiau (ar gael yn Saesneg yn unig) a gwyliwch y fideo.

Trawsgrifiad o'r fideo (yn Saesneg)

Video of a BBC commissioned webinar delivered by Deloitte on IR35 and the BBC settlement (Saesneg yn unig)
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: