The day of BBC Writersroom’s Welsh festival could not have come at a more opportune time for me as our Minky Cat had really stepped up her game in her efforts to disodli [: usurp] my office from the corner of her living room / or more latterly toilet area as she approaches her cat dotage.
Ni allai’r diwrnod i Ŵyl Ysgrifenwyr Cymru dan lyw BBC Cymru Wales wedi glanio ar fore mwy lwcus imi yn bersonol; gan fod Minky’r Gath wir wedi dwysau ei hymdrechion – a’i drewdod – wrth iddi geisio fy nisodli [ usurp, megis] o’r swyddfa rydym yn rhannu yn y tŷ: yn ddiweddar mae hi hyd yn oed wedi bod yn defnyddio fy nghornel cyfrifiadurol fel lle chwech er enghraifft; gyda rhyw esgus ei bod yn heneiddio a bod yna ormod o wynt yn yr ardd gefn.
Once safe inside Chapter the very charming Rachel Williams welcomed us #WalesWriters to the special one-day fest. I’d barely seen such expectation in the air (I’ll allow myself that metaphor as it was a writer’s festival after all) since once embarking on a ‘Leo Sayer’ [: that’s an all-dayer] in Manchester when I probably should have been reading Raymond Williams.
Unwaith gyrhaeddais i Chapter yn ddigon diogel cafwyd croeso cynnes a serchus gan Rachel Williams i’r Ŵyl undydd arbennig hon, a hashnod y dydd sef #WalesWriters wrth gwrs. Prin iawn imi deimlo gymaint o gyffro ers imi droedio allan yn esgidiau dawnsio - ac yfed - Leo Sayer (fe wna’i faddau'r trosiad trwsgl gan oedd hi’n Ŵyl i ysgrifenwyr!) pan ddylen i fod wedi bod yn astudio yn llyfrgell Prifysgol Manceinion, neu’n darllen Raymond Williams man lleiaf.

Much has been made in the Welsh media of the fact that BBC Wales have now got a budget to compete for network viewers with their drama (and comedy?) and although much has been made of what possibilities there are for the Welsh language S4C network by Welsh language campaigners, Rhodri Talfan Davies (Director of BBC Cymru Wales) was definitely more interested in getting Welsh stories noticed across Britain:
Mae llawer o sôn wedi bod eisoes yn y cyfryngau Cymreig am y ffaith y bydd gan BBC Cymru Wales cyllid gogyfer â chystadlu am wylwyr y rhwydweithiau dros Brydain yn y maes drama (a chomedi hefyd o bosib?) gyda’r addewid o’r buddsoddiad diweddaraf, ac er bod ymgyrchwyr iaith wedi cwestiynu oblygiadau hyn i S4C, prif ddiddordeb Rhodri Talfan Davies (Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales) ar y diwrnod oedd cael sylw Prydeinig at storïau Cymreig :
Outside Wales, the difference between BBC Wales being responsible for producing such huge hits as Doctor Who and Welsh-centric content may not seem like light years but within Wales – despite there being a substantial industry built around the new studios in what was Shirley Bassey’s Tiger Bay – there has long been a feeling over being under-represented on the BBC network channels of BBC One & BBC Two. Although in Scotland it has been felt by the policy-makers there that they’d want their own Newsnight, here in Wales we’d rather see the return of District Nurse or the like. And if District Nurse wasn’t actually shown across the UK, I’d concede that maybe BBC Wales have a point.
Y tu allan i Gymru, mae’r gwahaniaeth rhwng cynhyrchu rhaglen mor adnabyddus â Doctor Who â rhaglenni cynhenid Cymreig ddim yn edrych fel gofod eang iawn efallai ond o fewn ein gwlad ni mae yna deimlad wedi bod ers meitin nad ydynt yn cael cynrychiolaeth deg ar sianeli’r rhwydwaith BBC 1 & BBC 2 – a’r drwgdeimlad yma yn dal i fodoli er gwaetha’r holl waith sydd heb os wedi cael ei greu o amgylch y diwydiant newydd sydd ynghlwm â stiwdios newydd yn yr ardal a galwyd yn ‘Tiger Bay’ gan Shirley Bassey yn ei phlentyndod . Ac eto er bod yr Alban eisoes wedi penderfynu eu bod yn ystyried eu hallbwn newyddion i fod o’r pwysigrwydd fwyaf yn absenoldeb Newsnight lleol, yma yng Nghymru debyg y buasai’n well gennym ni weld dychweliad District Nurse i’n sgrin neu’r tebyg. Ac os na gafodd y District Nurse ei harddangos byth ar draws rhwydwaith y DG, efallai wedyn buaswn i yn fodlon i gytuno bod ganddyn nhw bwynt dilys wedi’r cwbl.
The disadvantage of being born in Wales was further brought to the fore by the Godfather of Welsh telly, Andrew Davies :
Yn ogystal, tynnodd un o hoelion wyth teledu Prydeinig – heb sôn am Gymreig - Andrew Davies ein sylw i’r anfanteision o gael magwraeth yng Nghymru:
...who got his salvation and inspiration from the same place as Bob Dylan it seems. Davies made quite a few unrepeatable asides that drew a good laugh on the day that might not stand up so well on a public-facing blog so we’ll leave it at that, apart from to say that according to the social media I’ve seen he was one of the day’s best performers.
...ac fe gafodd ei achubiaeth a’i ysbrydoliaeth ef o’r un man â Bob Dylan mae’n rhaid! Llwyddodd Davies gael ambell un o’r gynulleidfa i rolio chwerthin o’r llwyfan – er na fuasai pob ffraethineb ganddo’n edrych mor oleuedig â hynny yng ngolau dydd ac ar flog mor gyhoeddus, mae’n deg i ddweud serch hynny mai ef oedd un o sêr y dydd yn ôl yr hyn welais i ar y cyfryngau cymdeithasol.
A tip that showed strongly on the day, particularly in the morning session was one which *literally* drove me to twitters:
Er gymaint fy amharodrwydd i fynegi barn ar y cyfryngau cymdeithasol fel arfer (!), mi oeddwn i’n teimlo y dylen i rannu un o brif themâu – a chyngor tra defnyddiol – y bore hefyd:
Personally, I couldn’t fathom or possibly couldn’t believe it was a coincidence that a baby and Pobl y Cwm have roughly the same gestation period:
Yn bersonol, doeddwn i methu credu mai cyd-ddigwyddiad yw e bod hi’n cymryd naw mis i greu babi yn ogystal â rhaglen Pobl y Cwm ! :
I’m pretty sure the actual intent of this blog is to provide a fair review of the day, so in all honesty Laura Conway of CBBC gave a lot of great input, it’s possible that she came to my notice as my ears pricked up as soon as I heard of her experience, Penfold:
Dwi’n weddol sicr taw prif bwrpas y blog yma yw adolygu gwerth y diwrnod, felly i ganolbwyntio ar yr agwedd honno am ennyd, dwi’n o sicr bod cyngor Laura Conway o CBBC werth yr ymdrech i gyrraedd yr Ŵyl, er taw’r ffaith ei bod wedi gweithio ar un o fy hoff raglenni (pan oeddwn i’n blentyn roeddwn yn edmygwr mawr o’r DM gwreiddiol a’i ffrind pennaf Penfold) oedd wedi codi fy nghlustiau mymryn yn fwy na’r cyffredin.
A session on writing for radio revealed a particular need for further efforts – if not an actual shortage – in that area which I will endeavour to make up for in the open submission Drama Script Room at the end of this year. More details somewhere on this site, doubtless!
Yna mi oedd sesiwn ar ysgrifennu gogyfer â radio wedi gosod yr her bod angen arnynt fwy o gynnwys i ddethol ohono yn y maes hwnnw, her y dylwn i geisio ateb cyn eu bod yn agor y drysau i dymor Dramau y gwefan yma cyn diwedd y flwyddyn.
I also found it fairly inspiring to know that data is so alien to our brains (not just mine then) that in essence our minds turn it into a sort of story simply to understand it, and that a fair amount of BBC Radio 4’s million plus listenership from around the world are tuning into content created in Cardiff.
Mi ges i fy synnu hefyd i ddarganfod bod gan BBC Radio 4 dros filiwn o wrandawyr wedi eu gwasgaru dros bedwar ban y byd – sydd yn gwrando’n reit aml ar gynnwys a recordiwyd a chynhyrchwyd yma yng Nghymru yn stiwdios y BBC yng Nghaerdydd. Dyma’r fath o ffaith – yn ôl be glywais i hefyd – mae ein hymennydd yn dueddol i droi i mewn i stori fel hynny er mwyn ei gofio a’i ddeall. Difyr, fel mae ambell i gyflwynydd radio yn dueddol o ddweud.
The sessions were coming thick and fast by this point, and I’m not sure if it was the Rhod Gilbert connection, but the BBC Wales comedy session had to be moved to the larger auditorium due to demand, and they did not disappoint in their delivery:
Roedd hi’n teimlo petai’r sesiynau yn eu llawn llif erbyn hyn, a dwi’m yn sicr os taw’r cysylltiad Rhod Gilbert oedd yn denu gymaint o ddiddordeb, ond bu rhaid symud y sesiwn comedi i’r brif theatr oherwydd y galw mawr, ac unwaith i ni ail-leoli roedd yna ddigon i fwynhau:
To be fair, Sian Harries had no need to mention her Rhod to make a name for herself and the session was a true insight into fantastically creative comic minds:
I fod yn deg i Sian Harries nid oedd angen iddi sôn am ei Rhod er mwyn cyfleu ei gafael cynhenid ar ystod o gomedi ac mi oedd y sesiwn yn fewnwelediad gwych i eneidiau creadigol, angerddol a chyffrous.
The last session of the day saw producer Ynyr Williams, director Euros Lyn, writer Catherine Tregenna and Johnny Lewsley of BBC Commissioning on the panel. I did my best to cause a kerfuffle [mainly so that I could include that wonderful word in my blog] but they answered my rabble-rousing Welshy question with a straight bat and sent me for six, or at least as far as the bar.
Dyna ni felly’n nesau at drafodaeth ola’r diwrnod yng nghwmni'r cynhyrchwr adnabyddus Ynyr Williams, y cyfarwyddwr Euros Lyn, yr awdur Catherine Tregenna a Johnny Lewsley o adran gomisiynu’r BBC ar y panel. Mi geisiais i godi cwestiwn heriol am ddyfodol gwlad sydd yn adnabod ei thimau peldroed a rygbi ond nid ei hunan - ond gan oeddwn i wedi rhoi tua wythnos o rybudd o flaen llaw i’r trefnwyr am y fath hynny o ongl, bu posib iddyn nhw droi’r cwestiwn yn ôl arnaf i a gofyn a oeddwn i yn ceisio cyfleu fy hunaniaeth ar bapur. Ar y we, falle, ond ar bapur...?
In a way, their message of the day echoed the opening statement by Rhodri Talfan Davies: Wales needs to find a way to get its writers’ best work out there, and content – not landscape, nor language, nor patriotism is king.
Mewn modd o feddwl, roedd y neges hon yn ategu’r datganiad agoriadol gan Rhodri Talfan Davies: mae’n rhaid i Gymru dod o hyd i’r gallu i hybu gwaith ei hysgrifenwyr orau, ac mai’r cynnwys – nid y tirlun, na’r iaith nac ychwaith gwladgarwch bydd yn teyrnasu dros ddyfodol y rhwydwaith.
So now I’ve put my experiences on a page – your turn next, Wales expects nothing less!
Felly nawr fy mod i wedi llwyddo i roi fy mhrofiadau i ar bapur – eich tro chi sy’ nesaf, mae Cymru’n haeddu dim byd llai!
Find out more about Dai Lingual on his website and follow @DaiLingual on Twitter
Darganfyddwch mwy am Dai Lingual ar ei wefan a dilynwch @DaiLingual ar Twitter
