« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i ddysgwyr: 26 Medi 2012

Categorïau:

PigionPigion|14:32, Dydd Mawrth, 25 Medi 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dewi Llwyd - Betsan Llwyd

cyfarwyddo - to direct

cynulleidfaoedd - audiences

marchnata - marketing

cyllideb - finance

mae rhannau'n prinhau - parts become rarer

o dan groen - under the skin

llai profiadol - less experienced

dadlau - to argue

croes graen - against the grain

purudd ieithyddol - linguistic purist

..efo Betsan Llwyd oedd, yn westai penblwydd i 'Lwydyn' arall - sef Dewi Llwyd ar ei raglen fore Sul. Roedd Betsan yn arfer bod yn actores ond erbyn hyn mae hi'n cyfarwyddo dramâu fel Cyfarwyddwr Artsitig Theatr Bara Caws. Mi fuodd Dewi yn holi dau gwestiwn iddi hi: ydy dewis pa ddramâu i'w perfformio yn anodd, a pham wnaeth hi newid o'r byd actio i'r byd cyfarwyddo?

Nia - Dafydd Hywel

cofiadwy - memorable

trefnu - to organise

y bâd - the boat

ddim mo'yn - ddim eisiau

bant - i ffwrdd

ffili - methu

"O'r byd 'Llwydaidd' i oleuni'r haul yr awn ni nesa, a hynny efo actor arall sydd hefyd yn cyfarwyddo - Dafydd Hywel, neu DH fel mae pawb yn ei alw. Mi fuodd DH yn sgwrsio efo Nia am ei wyliau ar ynys Symi yng Ngwlad Groeg. A pha fiwsig oedd o'n ei glywed wrth fynd heibio tavernas yr ynys, meddech chi? Rhywbeth o Zorba the Greek, neu o fandalin Capten Corelli? Na, dim byd tebyg. Gwrandwch ar y clip nesa ma ac ella cewch chi eich synnu. "

Dei Tomos - Jimmy Michael

wedi maeddu pawb - beaten everybody

Brenin bach! - Goodness me!

pen tost - cur pen

llong - ship

"Mae na rywbeth arbennig am wlad Groeg yndoes 'na? Cartref yr Olympics wrth gwrs. Ac fel roedd rhywun yn meddwl bod yr holl sôn am bencampwyr y byd wedi mynd heibio, dyma stori ddifyr iawn am bencampwr yn dod ar raglen Dei Tomos o bopeth. Dyma Martin Watts o Lanwrda yn dweud hanes Jimmy Michael o Aberdâr. Fo oedd pencampwr seiclo'r byd yn Mil Wyth Naw Pump. "

Cofio - Johnny Owen

gornest - bout (fight)

swil, tawel - shy, quiet

Tregwyr - Gowerton

pencampwriaeth y byd - world championship

cafodd ei lorio - he was floored

cefnogwyr - supporters

angladd - funeral

teyrnged - tribute

anerch - address (speech)

ymchwil - research

"Dyna stori ddifyr, a thrist ynde? Sians bod yna ffilm i'w gwneud o'r hanes yna. Meddyliwch am y ffwdan fasai'n digwydd heddiw ma tasai un o sêr y byd seiclo yn marw yn ifanc o achos alcohol. Marw'n ifanc oedd hanes y bocsiwr Johnny Owen hefyd, ond nid oherwydd unrhyw arferion drwg, ond yn dilyn gornest am bencampwriaeth y byd yn Mil Naw Wyth Deg. Roedd hon yn stori wnaeth effeithio ar lawer iawn o bobl, nid yn unig ffans bocsio. Dyma David Cass yn adrodd hanes yr ymladd ar Cofio ac yn rhoi cyfle i ni ail-fyw chydig o hanes y dyn dewr o Ferthyr. "

Daf a Caryl - Ken Owens

rhyngwladol - international

rheng flaen - front row

yn ddidrugaredd - without mercy

ymddangos - to appear

gwên ar dy wyneb - smile on your face

parch - respect

bwrw - to hit

ffyrnig ar y maes - ferocious on the field

cic gosb - penalty

cyntefig - primitive

"Ac at 'Owen' dewr arall rwan - Ken Owen, y chwaraewr rygbi rhyngwladol. Fo oedd ein gwestai ar Daf a Caryl ddydd Mercher. Dan ni wedi hen arfer ei weld yn rhuthro o gwmpas y cae rygbi ac yn hyrddio mewn yn galed i chwaraewyr y tîm arall. Ond sut fath o berthynas sy 'na rhwng y chwaraewyr rygbi ma, unwaith mae'r gêm drosodd? "

C2 Rhiniog - Datblygu

arwain - to lead

darlledu - to broadcast

rhyddid - freedom

hen offerynau - old instruments

"Gobeithio y byddwn ni'n gweld Ken yn llorio sawl chwaraewr tramor yn ystod gêmau rhyngwladol yr hydref ynde? Dw i'n siwr basai'r rhan fwya o fandiau Cymraeg yn cael ein llorio tasai un o DJ's mwya enwog Prydain yn chwarae eu recordiau nhw, ac yn fwy byth tasen nhw'n cael gwahoddiad i roi sesiwn fyw ar raglen y DJ hwnnw. Wel dyna'n unon be ddigwyddodd i'r band Datblygu yn yr wythdegau, pan ddaeth John Peel yn ffan mawr ohonyn nhw. Dyma i chi Pat Morgan a David R Edwards o Datblygu, yn dweud yr hanes wrth Huw Stepphens ar Rhiniog. "

"Yma Wyf Innau I Fod " - Corwen

pendroni - wondering

beirdd - poets

cyfansoddi'r cerddoriaeth - composing the music

braw - fright

cyffwrdd - to touch

odl - rhyme

ailwampio'r deunydd - to revamp the material

heidio - to flock

achlysur - occasion

serch - romance

Ar wers ydy - gwnewch yn siwr nad ydy'ch ffôn yn brysur pan mae pobl enwog yn trio'ch ffonio chi! Ella dylai Gwion Lynch a Robat Arwyn wrando ar y wers honna, gan eu bod nhwthau wedi ysgrifennu cân arbennig iawn ar gyfer y rhaglen 'Yma rwyf innau i fod'. Cân am ardal Corwen ydy hi, yr ardal lle magwyd y ddau ohonyn nhw. Yn y clip ola am heddiw, mi gawn ni glywed ychydig o gefndir y gân gan y ddau, a gorau oll, mi gawn ni glywed y gân a'i mwynhau hi...