« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i ddysgwyr: 19 Medi 2012

Categorïau:

PigionPigion|14:07, Dydd Mercher, 19 Medi 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

"Blas (Bwyd ar Blat) " - Lowri Morgan

gwobrau - prizes

carreg - stone

yr her - the challenge

rhoi lan - to give up

ewinedd fy nhraed - toenails

gwaedu - bleeding

diflannu - to disappear

y llinell derfyn - the finishing line

cryfder - strength

dwfn yn fy enaid i - deep in my soul

...efo clip o'r rhaglen 'Blas'. Ond, am unwaith, fydd yna ddim sôn am fwyd yn y clip yma. Buodd Rhodri Ogwen yn cael pryd o fwyd efo Lowri Morgan a Stifyn Parri, a dan ni'n mynd i wrando ar ran o'r sgwrs pan oedd Lowri'n disgrifio ei phrofiadau wrth gymryd rhan mewn ras yn yr Artig...

"Huw Stephens " - Racehorses

strwythur - structure

adfywiad - renewal

adolygiadau gwych - brilliant review

un gwrandawiad - listening once

mwy neu lai - more or less

amseru - timing

y cant - per cent

diffyg gitar - lack of a guitar

allweddellau - keyboards

anhygoel - incredible

"Ew dan ni'n cael taith o amgylch y byd heddiw… Yr Artig, ac rwan Luxembourg. Wel, ddim y wlad yn union, ond at fand oedd yn arfer galw eu hunain yn Radio Luxembourg. Ei enw rwan ydy 'Racehorses' ac mi ddaeth Dylan a Gwion o’r band i'r stiwdio i siarad efo Huw Stephens nos Lun. Dyma nhw'n sôn am eu halbwm newydd ‘Furniture’ ddaeth allan yr wythnos diwetha. "

Cofio - Sol-ffa

rhaid i mi fanteisio - I must take advantage

y gyfrinach - the secret

dilyn - to follow

dirprwy - deputy

mabolgampwr - athlete

llofruddio - to murder

hen nodiant - staff notation

llyffethair - a barrier

crap go lew - a fair grasp

y sylfeini - the foundations

"Tybed oedd yr hogia wedi cael gwersi Sol-ffa pan oedden nhw'n blant? Dw i ddim yn meddwl rhywsut. Dyma'r ffordd roedd llawer o bobl yn dysgu sut i ddarllen cerddoriaeth ers stalwm - ond does na ddim llawer yn ei ddysgu'r dyddia 'ma. Ddydd Sadwrn mi glywon ni Aled Lloyd Davies a Rhys Jones yn trio dysgu Sol-Ffa I John Hardy. Pob lwc iddyn nhw... "

Daf a Caryl - Malcolm allen

hogia - bechgyn

cynrychioli fy ngwlad - to represent my country

arwyr - heroes

un symudiad - one movement

y rhwyd - the net

agwedd penderfynol - determined attitude

breuddwyd - dream

awyrgylch - atmosphere

braint - privilege

torchi llewys - to roll up the sleeves

"Well i John Hardy sdicio efo sylwebu ar bêl-droed ddwedwn i, d'wn i'm be oedd y nodyn ola 'na i fod. Aros efo pêl-droed wnaeth Malcolm Allen, diolch byth, pan ddaeth o aton ni ar Daf a Caryl. Ac mi gaethon ni lwyth o hanesion difyr gan y cyn bêl-droediwr rhyngwladol sydd rwan, fel John Hardy, yn sylwebydd pêl-droed ar Radio Cymru. Dyma Malcolm yn disgrifio ei daith bêl-droed o Ddeiniolen fawr i Manchester United bychan! "

Nia - Yr hosan

trosedd - crime

hosan - sock

lle crewyd - where it was created

darganfuwyd - was discovered

defnydd - material

gwau - to knit

yr wythfed ganrif - 8th century

trwsio - to repair

gwnio - to sew

sowdl - heel

"Mam oedd y cwîn' - gwir i lawer ohonon ni dw i'n siwr... Dw i wedi clywed rhai'n disgrifio ergyd wael mewn gêm bêl-droed fel 'cic hosan'. Rwan ta - be dach chi'n feddwl o bobol sy'n gwisgo hosan, neu sana wrth gwrs, efo sandalau? Trosedd yn erbyn ffasiwn? Dyma farn y frenhines ffasiwn Sina Haf ar raglen Nia ddydd Mawrth. Ac os wnewch chi wrando'n ofalus ella wnewch chi ddysgu ychydig am hanes yr hosan yn ogystal! "

Dylan Ebebezer - pêl-fasged

ar dy bwys di - wrth d'ymyl di

safon - quality

cymaint ohonyn nhw - so many of them

mynd amdani - to go for it

"Dw i wastad yn meddwl bod rhwyd pêl-fasged yn edrych fel hen hosan efo twll ynddi. Dach chi'n gwybod be dw i'n feddwl? Hen hosan neu beidio, mae Ioan Nickson o Borthmadog yn gwybod sut i ffeindio'r rhwyd. Mae o'n chwarae dros Gymru yn y gamp a fo oedd gwestai Dylan Ebenezer nos Fawrth. Mi sgoriodd o undeg pedwar o bwyntiau i Gymru mewn twrnament yn erbyn Gibraltar dros yr haf. Tair ar hugain oed ydy o a dw i'n siwr y byddwn ni clywed mwy amdano fo yn y dyfodol. "