« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 13 Awst 2012

Categorïau:

PigionPigion|09:21, Dydd Llun, 13 Awst 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Hogia'r Corn Gwlad - Ffanffer

hyderus - confident

dowch o 'na rwan - come off it now

mynd o'i le - to go wrong

yn ddiweddar - recently

y cyhoeddi - the pronouncement(ceremony)

llithrig - slippery

swyddogion - officers

yn y pendraw - in the end

achub yr offeryn - to save the instrument

temptio ffawd - to tempt fate

"...wel lle arall ond yn y 'Steddfod wrth gwrs. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ymlaen ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg ac mae'r seremoniau lliwgar yn boblogaidd iawn yn tydyn nhw? Dach chi wedi sylwi ar y ddau ddyn sy'n canu'r ffanffer ar y cyrn hirion ar gychwyn y seremoniau? Mi fuodd Nia Lloyd Jones yn sgwrsio efo Paul Hughes a Dewi Griffiths. Nhw ydy ffanfferwyr Corn Gwlad yr Eisteddfod ers deng mlynedd rwan. Dyma un neu ddau o storïau oedd gynnyn nhw am y cyfnod hwnnw... "

Blas - Kyio Roddis

arllwys y dŵr berw - to pour the hot water

ail-sychu - to re-dry

angygoel - incredible

gwyrdd llachar - bright green

fesul myrmyn bach - little by little

hylif - fluid

porfa - pasture

cefnogi - to support

dwys - intense

"Mae Paul a Dewi yn arwain bandiau hefyd - Paul yn arweinydd band Llanrug a Dewi'n arwain Band Dinas Caerdydd. A wyddoch chi be? Enillodd y ddau fand yn y Steddfod ddydd Sadwrn - Caerdydd yng nghystadleuaeth Bandiau Dosbarth 3, a Llanrug yng nghystadleuaeth Dosbarth 2. Os byddwch chi'n mynd yno, gobeithio cewch chi gyfle i fynd i Faes D, sef Pabell y Dysgwyr. Mae 'na gymaint o ddigwyddiadau gwahanol yno drwy'r wythnos. Un ohonyn nhw ydy perfformiad o seremoni de gan Kyio Roddis, merch o Japan sy'n byw yn ardal y Steddfod. Mae hi wedi dysgu Cymraeg yn arbennig o dda, fel y cewch chi glywed wrth iddi hi siarad efo Rhodri Ogwen ar 'Blas' ddydd Sadwrn. "

Talwrn - Cân Emlyn Gomer

cyrchfan - destination

nid nepell - ddim yn bell

yn waradwyddus - disgraceful

wylofain - crio/llefain

gweledigaeth - a vision

yn noeth o'r lli - naked from the sea

ar amrant - in a second

nwyf ieuenctid ffôl - foolish youthful vigour

y goler gron - the round coller

"Dw i'm yn siwr oedd rhaid i Rhodri wneud cweit cymaint o sŵn wrth yfed ei de chwaith! Un tîm na fydd yn cystadlu yn y Steddfod eleni ydy tîm Talwrn Caernarfon. Mi gollon nhw yn y rownd cyn derfynol, y semis, i dîm Y Glêr. Er ei bod nhw wedi colli mi wnaeth cân Emlyn Gomer i bawb chwerthin yng nghystadleuaeth y gân ysgafn. Dyma Emlyn yn darllen ei gerdd... "

Nia Roberts - Amgueddfa V&A

canolbwyntio - to concentrate

darganfyddiad - discovery

lliain - linen

yn oes - in the period

dillad isaf - undergarments

arbenigwyr - experts

pedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th century

unigryw - unique

ymchwil - research

bodoli - to exist

"Tîm Y Glêr felly sydd yn y ffeinal, ac mi gaeth y rownd derfynol yma ei chynnal ar ddydd Sadwrn cynta’r Steddfod. Mi gewch chi gyfle i weld pwy enillodd drwy wrando ar Radio Cymru neu wylio rhaglenni S4C o'r Steddfod. Ar ôl yr holl sôn yna am ferched noeth yn Bangkok, braf ydy clywed rhywrai'n siarad am ddillad merched, er mai sôn am 'fras' maen nhw! Eleri Lyn, curadur yn amgueddfa V&A Llundain oedd gwestai Nia dydd Mawrth,ac mi fuo nhw'n sgwrsio am fra go arbennig! "

Dewi Llwyd - Fflur Dafydd

dathliad - celebration

fy nghymar - my partner

anfantais - disadvantage

yn feichiog - pregnant

hyrwyddo - to promote

parablu - chatting away

arddull … myfyriol - contemplative…style

adlewyrchiad - reflection

hel achau - geneaology

awen - muse

"Difyr ynde? Merch arall sy'n ymchwilio hanes ydy'r gantores a'r awdures Fflur Dafydd. Chwilio mewn i hanes ei theulu mae hi ac mae hi wedi darganfod bod aelodau eraill o'u theulu wedi bod yn sgwennu caneuon hefyd. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul. Roedd hi'n dathlu ei phenblwydd ar Awst y cyntaf, ond hefyd yn dathlu penblwydd ei phriodas ar yr un diwrnod. Er ei bod hi'n disgwyl babi mae hi am fod yn andros o brysur dros y Steddfod fel y clywn ni yn y sgwrs yma... "

C2 - Y Gêmau Olympaidd

seremoni agoriadol - opening ceremony

y chwyldro diwydiannol - the industrial revolution

ffedog - apron

morthwyl - hammer

dynwared - to imitate

ar wefan - on the website

cwrdd â - cyfarfod efo

clyweliad - audition

gwirfoddolwyr - volunteers

tyrfe a llyched - mellt a tharannau

"O ia, mae na gystadlaethau eraill, blaw am yr Eisteddfod, yn digwydd yr wythnos yma yn does? Dach chi'n un o'r miliynau o bobl sydd wedi bod yn dilyn y gêmau Olympaidd ar y bocs? Da dyn nhw ynde? Wyddoch chi bod yna ddeng mil o bobol wedi cymryd rhan yn seremoni agoriadol y Gêmau? MIi gaeth Ifan Evans a Owain Llyr sgwrs efo Caryl Sian James oedd yn un o'r deng mil lwcus. Dyma hi'n rhoi peth o'r hanes... "

Daf a Caryl - Cân y Babis

llong ar fin hwylio - a ship about to sail

wynebau iach - healthy faces

yn wên o glust i glust - wide smile

cytun - content/happy

efeilliaid - twins

tonnau - waves

llonydd - quiet

angor - anchor

awel - breeze

Y Cefnfor Tawel - Pacific Ocean

Arwel Lloyd,o fand Gildas, oedd yn perfformio Cân y Babis mis Gorffennaf ar Daf a Caryl wythnos diwetha. Gwrandwch ar y gân hyfryd yma - mae hi'n mynd â ni ar daith long, yn hwylio o gwmpas Cymru, i Lerpwl a hyd yn oed i Sbaen i ddathlu ac i gyhoeddi enwau babis bach mis Gorffennaf. Mwynhewch!