« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: Tennis yng Nghymru

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|16:16, Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2012

Wythnos yma bydd pencampwriaeth Wimbledon yn cyrraedd uchafbwynt. Ond oes 'na ddigon yn cael ei wneud i ddatblygu'r gamp yng Nghymru?

Cymro, yr uwchgapten Walter Wingfield o Riwabon ger Wrecsam oedd sylfaenydd tennis lawnt. Mi wnaeth roi patent ar y gêm yn 1874. Ond tydi Cymru heb weld seren fawr yn llwyddo ar y cwrt tennis.

Mae pum can mil yn cael ei wario yn flynyddol gan Tennis Cymru, y corff sy’n gyfrifol am ddatblygiad y gamp.Mi fydd Manylu yn clywed gan rai clybiau llawr gwlad sy’n cwestiynau a ydi’r arian yn mynd i’r mannau cywir.

Bydd y rhaglen hefyd yn holi chwaraewyr addawol y dyfodol, a’n datgelu canlyniad ymchwil i ddarpariaeth tennis yr awdurdodau lleol.

Manylu, gyda Glesni Jones, nos Lun 2il o Orffennaf am 6.03pm ar BBC Radio Cymru.