« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: Cyfiawnder ar brawf?

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|13:16, Dydd Llun, 2 Ebrill 2012

Mi fydd miloedd o ddiffinyddion yng Nghymru a Lloegr yn colli'r hawl sylfaenol o fynd a'i achos gerbron rheithgor os bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen â chynlluniau i roi mwy o bwerau a chyfrifoldebau i lysoedd ynadon y ddwy wlad.

Ymhlith y troseddau fydd yn cael eu trosglwyddo i ofal llysoedd ynadon fydd rhai achosion o ddwyn, lladrad ymosodiadau ar berson ac achosion yn ymwneud â chyffuriau. Amgangyfrifir y byddai newidiadau o'r fath yn arbed tua 30 miliwn o bunnau y flwyddyn i'r trysorlys.

Ond mae nifer o fudiadau hawliau sifil ac aelodau o'r byd cyfreithiol yn gwrthwynebu'r newidiadau gan ei fod yn eu tyb nhw yn diddymu un o hawliau sylfaenol democratiaeth a chyfiawnder. John Meredith sy'n manylu.

Manylu, nos Lun 2il o Ebrill am 6.03pm ar Radio Cymru.