« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: Hunan anafu ar gynnydd yng Nghymru

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|17:12, Dydd Llun, 12 Mawrth 2012

Bu chwe mil o achosion o hunan anafu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwetha ond dywed arbenigwyr bod hon yn broblem guddiedig sy'n dal i gynnyddu.Yn ôl yr arbenigwyr sy'n cael eu cyfweld gan Manylu, mae angen clust i wrando ac i ddeall er mwyn helpu pobl sy'n hunan anafu, y mwyafrif helaeth yn bobl ifanc yn eu harddegau.

Mae rhai ysgolion wedi cyflwyno cynlluniau sy'n trafod materion o'r fath ond mae'r stigma sy ynghlwm a hyn yn gwneud trafodaeth agored a sensitif yn anodd. Heno bydd Llinos Wynne yn siarad ag un ferch ifanc fu'n hunan anafu dros gyfnod o flynyddoedd. Er ei bod wedi cael rywfaint o gymorth erbyn hyn mae'n dal i wneud ac yn esbonio pam.

Manylu, nos Lun 12fed o Fawrth am 6.03pm ar Radio Cymru.