Manylu: Strategaeth i helpu'r puteiniaid?
Amcangyfrifir bod o leiaf 80,000 o bobl yn gweithio fel puteiniaid drwy Brydaingyda rhyw 600 yng Nghaerdydd. Mae llawer yn gaeth i gyffuriau neu alcohol ac yn troi at ryw er mwyn helpu i ariannu hynny.
Heno mae Manylu yn clywed gan ddwy ferch ac un dyn am eu profiadau fel gweithwyr rhyw. Ond mae’r rhaglen yn clywed hefyd gan Dr Tracy Sagar o adran droseddeg Prifysgol Abertawe sydd wedi derbyn grant yn ddiweddar i ymchwilio i’r maes.Mae hi’n galw ar lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol i helpu puteiniaid i newid cyfeiriad eu bywydau.
Manylu,nos Lun 23 Ionawr am 6.03pm.


Mae