« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Datganiad ar gyfer Streic y Cerddorion

Categorïau:

NewyddionNewyddion|12:00, Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2011

Mae’r BBC yn siomedig iawn bod protest y cerddorion yn parhau am y tridiau nesaf a hynny er waetha ymdrechion i sicrhau bod yna amserlen a chyfarfod gyda uwch swyddogion y cyrff perthnasol, yn cynnwys prif weithredwr PRS, wedi ei gynnig yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyda’r bwriad o ddatrys yr anghydfod yma cyn diwedd Chwefror. Dyma’r tro cyntaf y byddai cyfarfod o’r fath wedi cael ei drefnu ers i’r cerddorion ddechrau eu hymgyrch - a byddai’r agenda yn un cwbwl agored.



Dros yr wythnosau diwethaf felly mae BBC Cymru a’r BBC yn ganolog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio cael cynllun allai arwain at ddatrys yr anghydfod yma.



Er mai y PRS sy’n gosod lefelau taliadau’r breindal barn y BBC ydi na all y sefyllfa yma barhau ac yn ystod y dyddiau diwethaf mae’r BBC wedi datgan eu bod yn gwbwl ymroddedig i geisio datrys y problemau a chwilio am atebion. Mae hynny’n dal i fod yn wir, er waetha’r ffaith bod y brotest yn parhau.



Mae’r BBC hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg i BBC Radio Cymru a’r cyfraniad aruthrol ma nhw’n ei wneud i ddiwylliant Cymru. Mae’r BBC yn ganolog hefyd yn ymwybodol o ba mor unigryw a gwerthfawr ydi’r cyfraniad yma i’n gwasanaethau a phwysigrwydd hyn oll i’n cynulleidfaoedd.



Yn ôl Siân Gwynedd, Golygydd Radio Cymru, “Rydym fel gorsaf yn gefnogwyr pybyr i gerddorion Cymraeg ac yn ymhyfrydu yn y bartneriaeth greadigol sydd ganddon ni gyda cherddorion yng Nghymru. Mae’n bwysig bod y diwydiant yn ffynnu a dyna pam ein bod wedi rhoi gymaint o ymdrech dros yr wythnos ddiwethaf i geisio cynnig cynllun gweithredol allai ddatrys yr anghydfod. Mi ydw i yn teimlo yn wirioneddol siomedig bod y cyfle yma i ateb y broblem wedi ei wrthod ond yn gobeithio y byddwn yn gallu parhau fel gorsaf i gefnogi’r diwydiant yn yr un modd yn y dyfodol.”