« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: Ifanc, heb waith a heb obaith?

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|17:00, Dydd Llun, 28 Tachwedd 2011

Wrth i'r nifer o bobl ifanc sy'n ddi-waith ym Mhrydain basio miliwn mi fydd Manylu yn mynd tu ôl i'r ystadegau a'n clywed profiad pedwar unigolyn sy'n chwilio am waith.

Mi raddiodd Gwenllian Haf Wyn o Brifysgol Aberystwyth yn 2010, ond mae wedi methu dod o hyd i waith parhaol ers hynny.

“Mae o’n cael person lawr, mae’n tynnu eich ysbryd chi lawr fel person, chi’n teimlo’n ddi-werth bod neb eisiau cyflogi chi achos bod chi ddim yn ddigon da, er nad ydy nhw yn eich adnabod chi a rili fi’n gwybod hynny.”

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae dros 49,000 o bobl ifanc rhwng 16-24 oed yn ddi-waith yng Nghymru. Mae hynny yn cynrychioli 22.4 y cant, sydd yn uwch na’r cyfartaledd y Deyrnas Gyfunol.

Un arall sy’n chwilio am waith ydi Louis Ryan, sy’n byw gyda’i fam a’i chwaer yngNghaerdydd. Mae’n 17 oed ac yn astudio yn y coleg.Bu farw ei dad yn gynharach eleni ac ers hynny mae wedi bod yn edrych am waith rhan amser i geisio helpu sefyllfa ariannol ei deulu.

”Mae fy mam mewn gwaith ond dyw e ddim wir yn ddigon o arian oherwydd y mortgage, oherwydd yr angladd, oherwydd mae ganddi ddau o blant i ofalu amdano a does dim wir arian rhydd i ni ac rwy'n teimlo bach o gyfrifoldeb drosom ni”

Oes digon yn cael ei wneud i daclo diweithdra ymysg yr ifanc?

Cewch glywed mwy am brofiadau’r bobl ifanc sy’n chwilio am waith yn MANYLU, Nos Lun, 18.03 BBC Radio Cymru.