« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gerallt yn rhoi'r gorau i'r Talwrn

Categorïau:

NewyddionNewyddion|11:12, Dydd Iau, 3 Tachwedd 2011

Mae Gerallt Lloyd Owen wedi cadarnhau na fydd yn dychwelyd ar gyfer y gyfres nesaf o’r Talwrn ar BBC Radio Cymru, a’i fod yn rhoi’r gorau i fod yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd, ar ôl 32 mlynedd wrth y llyw.

Gerallt Lloyd Owen

Meddai Gerallt Lloyd Owen:

“Dwi wedi gwneud 32 o flynyddoedd fel Meuryn ac efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rhywun arall, wedi'r cyfan dwi wedi bod yn gwneud y Talwrn am hanner fy oes. Mae wedi bod yn gyfnod rhyfeddol o hapus a dwi wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau ledled Cymru dros y blynyddoedd."

Meddai Sian Gwynedd, Golygydd Radio Cymru a Theledu Cymraeg:

“Gerallt Lloyd Owen fu llais Y Talwrn ar BBC Radio Cymru ers y cychwyn cyntaf ac mae’n sicr yn ddiwedd cyfnod wrth iddo ollwng yr awenau. Mae gwrandawyr yr orsaf a’r beirdd niferus y bu’n Feuryn arnynt ar hyd y blynyddoedd wedi elwa o’i sylwadau treiddgar, ei gof toreithiog a’i hiwmor parod. Mae’n wir dweud ei fod ef a’r Talwrn wedi sicrhau bod barddoniaeth yn parhau i fod yn gyfoes a difyr ymysg Cymry Cymraeg.

“Hoffwn i ar ran BBC Radio Cymru ddiolch i Gerallt am y cyfraniad aruthrol a wnaeth ar hyd yr holl flynyddoedd a dwi’n siŵr bod y gwrandawyr hefyd yn ymuno a mi wrth ddiolch a dymuno’r gorau iddo.”

Ewch i wefan Y Talwrn.