« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cerdd Dant Iwan Huws

Categorïau:

NewyddionNewyddion|08:19, Dydd Gwener, 11 Tachwedd 2011

Wel dyma'r foment fawr!

Fis yn ôl fe osodwyd her arbennig iawn gan BBC Radio Cymru i Iwan Huws fynd ati i ddysgu'r grefft o osod cerdd dant, ac yna canu ei osodiad ei hun.



Y dasg a osodwyd iddo oedd gofynion cystadleuaeth yr unawd cerdd dant dros 21 oed yn yr Wyl Gerdd Dant eleni yng Nghwm Gwendraeth - sef 'Rhyfel' gan Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury ar y gainc 'Cymerau- gan Nan Elis.



Ac ar ôl cael dwy wers gerdd dant gan Menai Williams, a thrafod y gerdd a'r gainc hefo Hywel Griffiths a Nan Elis - fe ddaeth hi'n amser i Iwan recordio ei osodiad ei hun i gyfeiliant telyn. Meinir Llwyd Jones sydd yn cyfeilio iddo...

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.