« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: Afghanistan - 10 mlynedd

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|15:14, Dydd Llun, 31 Hydref 2011

Deng mlynedd ers dechrau rhyfel Afghanistan bydd rhaglen materion cyfoes Manylu yn clywed profiadau rhai o'r Cymry sydd wedi bod yn y wlad dros y ddegawd diwetha.

Yn 2001 roedd rhai'n hyderus byddai'r rhyfel drosodd ar ôl dim ond tri mis pan ddisodlwyd y Taleban. Ond deg mlynedd yn ddiweddarach mae’r rhyfel yn dal i rygnu mlaen gyda bron i dair mil o filwyr y gyngrair wedi eu lladd, a dros deg mil o bobol gyffredin wedi marw ers dwy fil a saith. Bydd Manylu yn clywed gan y Cymry fu yno - rhai yn brwydro ac eraill yn ceisio gwella bywydau pobol gyffredin yn un o wledydd tlota'r byd.

Manylu, heno, 1803.