Dylan Iorwerth dan yr wyneb
Bydd rhaglen wythnosol newydd ar BBC Radio Cymru yn mynd dan groen pob math o wahanol bynciau. Cyflwynir y rhaglen newydd, Dan yr Wyneb gan Dylan Iorwerth ac fe'i darlledir yn ystod yr amser y darlledwyd Wythnos Gwilym Owen.
Bydd y rhaglen newydd wythnosol yn edrych ar newyddion a phenawdau’r dydd, o ongl wahanol a thrwy lygaid craff Dylan ei hun. Bydd hefyd yn cymryd golwg ar newyddion cyffrous nad yw o reidrwydd yn ei gwneud hi i’r penawdau dalen flaen - datblygiadau technolegol, meddygol neu wyddonol.
“Mae’n dipyn o her i gyflwyno rhaglen yn hen gornel Gwilym Owen,” meddai. “Mi fydda innau’n holi’r cwestiynau caled ond yn fy ffordd fy hun. Y nod ydi rhaglen sy’n mynd dan groen pethau, yn holi sut a pham am bob math o bynciau, o wleidyddiaeth i hanes a gwyddoniaeth a’r holl newidiadau anferth sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd.
“Bob tro, gobeithio, mi fydd gynnon ni sgwrs un-ac-un yn rhoi cyfle i holi un person yn ddwfn am brofiad, barn, neu bwnc - ond mi fydd yna hefyd drafodaethau ehangach ac ambell i dding-dong hen ffasiwn am destun llosg. A’r cwestiwn pwysica’ bob tro wrth benderfynu ar stori i’w chynnwys – ydi hyn yn ddiddorol?”
Ac meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru;
“Mae yna barch aruthrol i Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr yma yng Nghymru ac ryden ni yn falch iawn o gynnig cyfres newydd fel hon i wrandawyr yr orsaf. Mae gan Dylan y ddawn i fynd o dan wyneb stori a rhoi ongl newydd, ddifyrar benawdau’r dydd. Mae hefyd yn ddarlledwr ffraeth a chraff a rydyn ni’n ffyddiog y bydd yn ychwanegiad cyffrous i ddarlledu dechrau’r wythnos ar Radio Cymru.”
Darlledir Dan yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth, o ddydd Llun, Hydref 3, BBC Radio Cymru, 1.15pm


Mae