« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Joban Anodd: chwilio am swydd waetha' Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|09:10, Dydd Mercher, 7 Medi 2011

Mae BBC Radio Cymru yn anfon y bardd, golygydd cylchgrawn a dylunydd graffeg Meirion Macintyre Huws i chwilio am swydd waetha Cymru. Bydd ei anturiaethau i’w clywed ar gyfres newydd sbon, Joban Anodd sy’n dechrau ar Radio Cymru ddydd Mercher, Medi 7 am 6pm.

Mei Mac

Mei Mac

Mae Mei Mac, sy’n byw yng Nghapel Uchaf ger Clynnogfawr, ac yn golygu cylchgrawn newydd, Y Glec, wedi cael ambell i swydd reit ddifyr ei hunan.



“Fy swydd gynta erioed oedd gwerthu diodydd melys o ddrws i ddrws yn ystod gwyliau’r haf, “ meddai. “Dwi hefyd wedi bod yn weithiwr gwaith trin carthion a gweithiwr trwsio pibellau dŵr. Cefais brofiad o weithio mewn sawl adran o Ddŵr Cymru fel rhan o fy hyfforddiant fel Peiriannydd Sifil a Strwythurol. Doedd y gwaith trin carthion ddim hanner mor ddrwg ag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Fues i hefyd yn gweithio arwydd Stop and Go ar ffordd gefn am ychydig ddyddiau - dyna’r profiad mwya’ diflas dwi erioed wedi ei gael.”



Ond yn ystod ei ymchwil ar gyfer y gyfres, fe ddaeth Mei Mac i’r casgliad nad oes neb yn credu mai eu swydd nhw eu hunain ydi’r gwaethaf, er bod pobl eraill yn meddwl hynny.



“Dywedodd ychydig dros 16% o’r bobol wnes i eu holi mai gan lanhawyr toiledau cyhoeddus oedd y joban waetha’. Yna mi wnes i gyfweld rhywun oedd yn gwneud y gwaith hwnnw, a ddaru nhw enwebu rhywun arall ac yn y blaen. Mae’n ymddangos nad oes y fath beth â’r swydd waetha gan bod pawb yn meddwl mai gan rhywun arall mae honno.”



Joban Anodd, Dydd Mercher, Medi 7, BBC Radio Cymru, 6pm