« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

DJ Huw Stephens yn troi yn Olygydd Newyddion

Categorïau:

NewyddionNewyddion|09:44, Dydd Llun, 15 Awst 2011

Roedd y cyflwynydd a DJ BBC Radio Cymru a BBC Radio One, Huw Stephens yn rhoi cam i fyd newyddion bore 'ma wrth i nifer o wynebau cyfarwydd ymgymryd â’r her o olygu rhaglen newyddion fore BBC Radio Cymru, Post Cyntaf. 

Huw Stephens

Huw Stephens

Fel golygydd gwadd Post Cyntaf, a gyflwynir gan Garry Owen a Nia Thomas, Huw oedd yn gyfrifol am bennu rhan o agenda newyddion y dydd, gan ddewis pynciau amserol o’i ddewisa ei hun ar gyfer trafodaeth. Dewisodd Huw, sy’n hanu o Gaerdydd, dau bwnc sy’n agos i’w galon.



"Fues i yn Kenya yn ddiweddar gydag elusen ryngwladol a gweld y gwaith mae nhw yn wneud yna, yn Nairobi a Mombassa," meddai.



Yn dilyn ei daith mae Huw wedi dechrau noddi plentyn yn Kenya.



"Mae’r sefyllfa yn gwaethygu yn Kenya yn gyson, felly fyddwn ni’n edrych ar y wlad a sut mae modd helpu. Hefyd, ar nodyn hollol wahanol, fyddwn ni’n edrych ar y sefyllfa PRS (Performing Rights Society) yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r tal mae cerddorion yn cael pan chwaraeir eu caneuon ar Radio Cymru wedi lleihau yn ddiweddar, ac mae’n effeithio’r sîn gerddoriaeth."



Roedd y cerddorion Dafydd Roberts a Gai Thomas yn trafod y mater yn ogystal â chynrychiolwyr o PRS a Radio Cymru.



Yn ei fywyd bod dydd mae Huw, sy’n trydar yn gyson ar Twitter, yn dilyn y newyddion ac yn ymddiddori mewn materion cyfoes.



"Fi’n prynu papurau newydd bob dydd ac ar wefannau newyddion y BBC a Guardian drwy gydol y dydd. Mae Twitter yn ffordd anhygoel o ddal lan gyda newyddion y byd hefyd. Fi'n edrych mlaen yn fawr iawn i fod yn rhan o’r Post Cyntaf am y dydd, gan obeithio rhoi sylw i ddau bwnc diddorol a phwysig."



Huw yw’r cyntaf mewn rhestr o wynebau amlwg i ymgymryd â’r her o olygu Post Cyntaf am y dydd. Maen nhw yn cynnwys y cynllunydd tlysau Rhiannon Evans o Dregaron (Dydd Mercher, Awst 17); cyn chwaraewr rygbi a Deon Prifysgol Leeds Metropolitan Gareth Davies; Russel Jones o raglen Byw yn yr Ardd (Awst 22); cyn-gaplan y fyddin Aled Thomas (Awst 24); Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury (Awst 26) ac awdur llyfr am fywyd Lloyd George, Ffion Hague (Awst 30).

Gwrando ar y rhaglen