Hysbyseb deledu Dafydd a Caryl
Postmon ar sglefr fwrdd, ci yn perfformio ac actor cyfarwydd… roedd golygfeydd gwahanol iawn i’r arfer ar Stryd Dorfil, Blaenau Ffestiniog yn ddiweddar pan fu BBC Cymru yno yn ffilmio yn ddiweddar. Roedd adran Gwasanaethau Creadigol BBC Cymru ar y stryd am ddau ddiwrnod yn ffilmio hysbyseb teledu llawn cyffro, i hysbysebu rhaglen fore BBC Radio Cymru, Dafydd a Caryl. Bydd yr hysbyseb yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar BBC One Wales ddydd Gwener, Gorffennaf 15.
Bu trigolion y stryd yn cymysgu gyda’r cast a’r criw ffilmio yn ystod y ddau ddiwrnod, gyda llawer yn agor eu drysau ar gyfer ffilmio y tu mewn i’w tai ac yn cynnig lle i’r cast newid eu dillad.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Doedd Leon Evans, 10 oed, sy’n byw ar y stryd gyda’i frawd Luke, 3, a’i fam Kayley, 28, ddim yn gallu credu ei lygaid pan welodd actor o’i hoff raglen Rownd a Rownd ar ei stryd. Mae Emlyn Gomer, sy’n gyfarwydd i lawer fel Arwel yng nghyfres S4C ar gyfer pobol ifanc, yn ymddangos yn yr hysbyseb.
“Oni methu credu bod na pobol ‘famous’ ar stryd ni,” meddai Leon. “Oedd o mor ‘exciting’. Nes i fynd i’r ysgol a dweud wrth fy ffrindiau i bod na gameras a ffilmio ac actorion ‘famous’ ar stryd ni. Oeddan ni’n siarad am y peth drwy’r dydd yn yr ysgol, ac wedyn ‘naethon nhw gerdded adra’ hefo fi i weld o eu hunain.”
Daeth tŷ’r teulu yn gyrchfan dros y ddau ddiwrnod o ffilmio, wrth i’r cast a’r criw bicio i mewn am baneidiau o de a choffi yn ystod torri yn y ffilmio yn ogystal â gadael i’r actorion a phobol stynts newid yno.
“Dydan ni ddim yn cael llawer o griwiau ffilmio yn Blaenau ac roedd hi’n gyffrous iawn i ni gyd bod hyn yn digwydd ar ein stryd ni,” meddai Kayley.
Croesawodd Delwyn Jones, 32, saer coed a myfyriwr peirianneg, y ffilmio hefyd. Defnyddiwyd tu mewn a thu allan y cartref y mae’n rhannu gyda’i fam Susan Jones, 62, ar gyfer yr hysbyseb teledu.
“Mae’n neis y bydd gweddill Cymru yn cael gweld Blaenau ar y teledu,” meddai Delwyn. “Dydi Blaenau ddim ar y teledu yn aml iawn.”
Mae Lynn Roberts, 37, yn byw ar y stryd gyda’i phartner Kevin Davies, 40, a’u pedwar o blant.
“Mae hon yn stryd braf, lle ‘dan ni i gyd yn ‘nabod ein gilydd,” meddai Lynn. “Mae yna ‘mix’ da yma o bobol ifanc hefo plant a phobol hŷn. ‘Dan ni gyd yn edrych allan am ein gilydd ar y stryd yma. Mae ‘na dipyn o gyffro wedi bod hefo pobol yn dod i weld be sy’n mynd ymlaen. Mae’n grêt. “
Yn cyfarwyddo’r ffilmio roedd Pennaeth Gwasanaethau Creadigol BBC Cymru, Phil Higginson.
“Mi wnaethon ni ddewis Blaenau Ffestiniog fel lleoliad ar gyfer y ffilmio am ei fod yn cynrychioli ardaloedd craidd Radio Cymru a’r gymuned Gymraeg y mae’r orsaf yn ei gwasanaethau tra ar yr un pryd gael lleoliad gyda golygfeydd anhygoel,” meddai. “Mae rhywbeth didwyll iawn am y dre. O’r ymweliad cyntaf i ddyddiau olaf y ffilmio, fe gawson ni ein croesawu i’r gymuned ac i gartrefi, yn llythrennol mewn rhai achosion, ac mae’r gefnogaeth gawson ni yn anhygoel.”


Mae