« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Addysg Gymraeg yng Ngwent

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|14:32, Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011

Ddiwedd wythnos ddwetha fe ddaeth rhieni, athrawon a gwleidyddion ynghyd ym mhentre Griffithstown ger Pontypwl i ddathlu agoriad swyddogol ysgol Panteg, y drydedd ysgol Gymraeg gynradd yn yr ardal. Mae'r ysgol wedi bod ar agor ers blwyddyn - ond roedd y seremoni, ddydd Gwener, yn nodi diwedd blwyddyn o dŵf a llwyddiant.

Mae ysgolion Cymraeg yn cynyddu'n gyflym yr hen Went - ardal a oedd yn cael ei chyfrif fel ardal gwbl Seisnig - yn y dyddiadu diwethaf daeth y cyhoeddiad bod trydedd ysgol gynradd ar fin agor yng Nghasnewydd ac ym Mlaenau Gwent, mae rhieni yn Nhredegar ger Glyn Ebwy yn galw am ysgol newydd yno.

Beth sy'n gyfrifol am y tŵf yma yn Ne Ddwyrain Cymru? Ac a ydi'r awdurdodau yn ymateb i'r galw?

Manylu, Radio Cymru, nos Lun, 1803