« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ffrae diffoddwyr tân Llanelli

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:39, Dydd Llun, 27 Mehefin 2011

Mi fydd bywydau mewn perygl - dyna yw haeriad rai o ddiffoddwyr tân Llanelli, wrth ddadlau yn erbyn cynlluniau'r gwasanaeth tân i newid patrwm gweithio'r orsaf.

O dan y newidiadau bydd nifer diffoddwyr yr orsaf yn gostwng o wyth ar hugain i dri ar ddeg, gyda'r shifftiau yn ymestyn i gyfnodau o hyd at nawdeg chwe awr.

Gorymdaith yn Llanelli

Yn ôl gwasanaeth tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, ni fydd y newid yn effeithio ar amseroedd ymateb. Lleihau'r nifer o ddiffoddwyr sydd ddim ar ddyletswydd ar unrhyw adeg yw'r bwriad, gan arbed arian i'r trethdalwyr ar yr un pryd. Mae nhw yn mynnu y bydd na ddigon o amser i orffwys yn ystod shifftiau hir.

Ond mae Carwyn Thomas, sydd wedi bod yn ddiffoddwr tân yn Llanelli ers saith ar hugain o flynyddoedd, yn poeni y bydd y gwasanaeth i'r cyhoedd yn dioddef o dan y cynlluniau.

"Amser des i Lanelli gynta' ro'dd pedwar deg ohonom ni 'na a ni nawr lawr i wyth ar hugain a ma'i eitha' strygl i gadw'r shifft i fynd fel mae nawr i fod yn onest a ma nhw'n siarad nawr am dorri ni lawr i dri ar ddeg so fi ffili gweld fy hunan fel ma hwnna yn mynd i weithio. Fi'n dod i benni gwaith nawr a licien i gysgu'n dawel amser byddai'n ymddeol a gwybod bod fy mhlant i a finnau yn saff yn ein cartref, fel i fi wedi bod yn cadw pobl Llanelli yn saff fy hunan dros y blynydde."

Mae'r system o weithio eisoes mewn bodolaeth yng ngorsaf dân Pontardawe. Yn ôl yr uwch swyddogion tân, mae'n llwyddiannus. Ond bydd Manyluyn clywed pryderon gan un dyn tan o'r orsaf bod blinder yn broblem yno, a bod dim cyfleusterau addas i orffwys yn gyfforddus.

A fydd hi'n argyfwng ar wasanaeth tân Llanelli?

Manylu, gyda Glesni Jones, nos Lun, 27ain o Fehefin. 18.03 BBC Radio Cymru