« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Bwlio Homoffobig - profiadau'r dioddefwyr

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|13:38, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Yn ôl mudiad sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl hoyw mae bwlio homoffobig yn broblem sy' ar gynnydd yng Nghymru. Mae Stonewall Cymru yn honni fod disgyblion ysgol dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu bwlio oherwydd eu rhywioldeb nag ydyn nhw ar sail hil neu grefydd.

Bydd rhifyn yr wythnos o Manyluyn ymchwilio ymhellach i achosion o fwlio homoffobig ac yn clywed am brofiadau un bachgen ysgol o'r de.

Ac mae 'na ddigwyddiadau y tu allan i goridorau'r ysgolion hefyd. Bydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn siarad am brofiad annifyr iawn gafodd e' tra'n dyfarnu mewn gêm yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor yma.

A bydd sylw hefyd i achos cyn-filwr o ardal Rhydaman sy'n honni ei fod e' a'i bartner wedi cael eu bwlio gan gymydog oherwydd eu bod nhw'n hoyw.

Bwlio homoffobig - profiadau'r dioddefwyr, a beth sy'n cael ei wneud i'w daclo? Ioan Wyn Evans fydd yn holi ymhellach ar Manyluar BBC Radio Cymru, ar nos Lun, Mehefin 20fed, am 6 o'r gloch.