« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cyfweliad penblwydd Twm Elias

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:27, Dydd Llun, 16 Mai 2011

Fydd Twm Elias ddim eisiau llawer o ffys ar ei benblwydd - ar y cyfan mae'n well ganddo gael tipyn o heddwch!

Ei anrheg delfrydol fyddai tocyn llyfr er mwyn cael prynu cyfrol o'i ddewis ei hun!

Twm Elias

Wrth ei waith bob dydd mae'n trefnu cyrsiau amgylcheddol ym Mhlas Tan y Bwlch ger Maentwrog yng Ngwynedd, swydd ddelfrydol ar ei gyfer gan ei fod yn ymddiddori ym mhob agwedd ar fyd natur.

Yn awdur ar nifer o lyfrau, o hanes y porthmyn i'r tywydd, mae Twm hefyd yn olygydd ar gylchgrawn 'Fferm a Thyddyn', gwaith y mae'n ei wneud ers yr 80au ac sy'n rhoi boddhad mawr iddo.

Twm oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd a bu teithiau'r gymdeithas yn fodd o ddysgu fod amryw o enwau gwahanol gan y Cymry ar yr un anifeiliaid a phlanhigion.

Mae Twm bellach yn aelod o banel sydd yn safoni enwau ym myd natur ac mae'n grediniol ers yn ifanc fod angen i'r iaith ddatblygu mewn meysydd fel gwyddoniaeth yn ogystal a'r celfyddydau!