« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cyfweliad Penblwydd Eleri Llwyd

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|09:25, Dydd Mercher, 25 Mai 2011

Ar drothwy ei phen-blwydd eleni mae'r gantores Eleri Llwyd yn gobeithio cyfarfod Barack Obama, a hynny gyda'i gwr yr Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd.



A hithau bellach wedi ymddeol fel athrawes Saesneg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, mae hi wrth ei bodd yn cael gwneud yr hyn mae'n mwynhau ei wneud! Mae hynny'n cynnwys coginio, tyfu llysiau, a theithio i weld orielau yn Llundain ond nid y siopau! Does dim yn well ganddi na mynd i Gaernarfon i warchod ei hwyres Anni.



Fe ddaeth i amlygrwydd fel cantores yn y 70au ac mae wedi ail-ddechrau perfformio'n ddiweddar. Mae'n ddiolchgar ei bod yn cael cwmni cyfeilydd erbyn hyn.



Yn ferch i’r dramodydd Huw Lloyd Edwards mi roddodd Eleri hefyd gynnig ar ysgrifennu pan oedd hi'n ifanc, gan gynnwys un ddramodig am y Lone Ranger a Tonto!



Ei hanrheg pen-blwydd delfrydol fyddai taith ar drên yr Orient Express i Rwsia a chael pryd o fwyd hyfryd gyda’i theulu i gyd ar ôl cyrraedd adref.