Ffermio dwys - da neu ddrwg?
Roedd hi'n gryn ryddhad i fudiadau hawliau anifeiliaid pan gafodd cais dadleuol i ddatblygu fferm laeth ddwys fwyaf Prydain yn Nocton yn sir Lincoln ei dynnu'n ôl. Ond pharodd y gorfoledd ddim yn hir. Mae 'na fwy o geisiadau i ddatblygu ffermydd o'r fath - un yn Nhre'r Llai ger y Trallwng ym Mhowys. Gobaith Fraser Jones ydi cynyddu ei yrr o ddau gant o wartheg i fil - a'u cadw dan do am gyfnodau helaeth. Dywed bod yn rhaid iddo ddatblygu oherwydd y pris isel y mae ffermwyr yn ei gael am eu llaeth.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae ffermydd o'r fath yn annaturiol ac yn greulon. Maen nhw'n dadlau bod gwartheg angen mynd allan i bori, a bod rhai sy'n cael eu cadw dan do yn fwy tebygol o ddioddef afiechydon.
Mae ffermydd dwys yn cadw miloedd o wartheg yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau, ac mae Manylu'n clywed barn ymgynghorydd amaethyddol sydd wedi bod yno'n ymweld ag un. Mae e'n dadlau bod safon y gofal mae'r anifeiliaid yn ei gael yn dda, a bod yn rhaid ystyried ffermio'n ddwys yn y wlad yma hefyd oherwydd y galw am fwyd rhad wrth i'r boblogaeth gynyddu.
Yn ôl rhai, mae'n anochel y bydd mwy o ffermydd dwys yn cael eu datblygu ym Mhrydain. Ond nid ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yn unig sy'n bryderus. Yn ôl cadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, Eifion Huws, mi allen nhw fod yn ergyd i'r fferm deuluol.
"Am bob fferm sydd efo mil o wartheg - mae'n gwneud ffermwr bach efo cant o wartheg allan o fusnes," meddai.
Manylu - gyda Alwen Williams, heno toc wedi chwech.


Mae