« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Prisiau tocynau trên yn codi

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|11:09, Dydd Llun, 24 Ionawr 2011

Gyda prisiau tocynau trên yn codi mis yma, Manylu sy'n gofyn os ydi pobl yng Nghymru yn cael gwerth eu harian?

Yn y rhaglen cawn glywed gan deithwyr o Fangor, Caerdydd ac Aberystwyth.

Un o'r rhain ydi Dafydd Jones o Gaernarfon. Mae'n dweud y bydd yn meddwl ddwy waith cyn defnyddio'r trên eto ar ôl iddo gael ei siomi gyda'r gwasnaeth. Mi ysgrifenodd lythyr o gwyn at y Gweinidog trafnidiaeth Ieuan Wyn Jones ac at brif weithredwr cwmni trenau Arriva Cymru.

"Ar ddiwedd y dydd yr unig beth dwi isio ydi cyraedd o A i B ac os oes na rhywbeth yn mynd i ddod ar draws hynny, tydi'r cwsmer ddim yn mynd i licio fo."

Yn ôl teithwyr eraill yn y rhaglen, mae angen gwella ar gyflwr cerbydau trenau Arriva Cymru, gan bod gwahaniaeth safon yn amlwg pan yn cymharu gyda rhai o drenau yn Lloegr. Mae'r aelod cynulliad dros Ogledd Cymru Eleanor Burnham yn defnyddio y tren bob wythnos, ac yn dweud bod rhaid i bethau newid.

"Mae na bethau sylfaenol gwael weithiau... Yn y pen draw dwi ddim yn credu bod na ddigon o fonitro a cael gwerth am arian am yr arian swmpus ma sy'n cael ei roi yn y trenau."

Ond mae trenau Arriva Cymru yn mynnu eu bod yn buddsoddi yn y gwasanaeth, ac yn bwriadu adnewyddu sawl fflyd.

Ond beth yw'r ateb yn y tymor hir?

MANYLU - Lun Ionawr 24ain, toc wedi chwech.