Dewi Llwyd a Gareth Davies
Yn un o ser tim rygbi Cymru yn yr 80au mae Gareth Davies bellach yn gweithio yn y byd addysg yn Leeds.

Yn yr ysgol, yn ogystal a disgleirio ar y maes rygbi roedd yn chwaraewr criced i ysgolion Cymru a bu'r holl chwaraeon yn gynnen rhyngddo a'i dad oedd am ei weld yn canolbwyntio ar ei addysg.
Wrth gymharu'r gem Rygbi yn ei gyfnod ef a heddiw, mae'n teimlo ei fod wedi cael y pleser o chwarae yn yr oes euraidd.
Tra fod pob cyfle posib i chwaraewr gyrraedd ei lwyr botensial heddiw, mae'n teimlo na allai o ymarfer a thrafod rygbi bob dydd!
Wedi gwneud nifer o swyddi amrywiol, gan gynnwys pennaeth chwareon BBC, Cadeirydd Swyddfa Post, Prif weithredwr Clwb Rygbi Caerdydd, Cad Cyngor Chwaraeon Cymru, comisiynydd chwaraeon i S4C, gwaith i'r Cynulliad yn Awstralia, mae bellach yn un o benaethiaid Prifysgol Metropolitan Leeds.
Wrth edrych ymlaen at gem gyntaf Cymru yn erbyn Lloegr ym mhencampwriaeth y 6 Gwlad mae'n pwysleiso fod ennill y gem hon yn dyngedfennol.


Mae