Dewi Llwyd a Bill Hughes
Am gyfnod fel un o gynghorwyr Abertawe roedd Bill Hughes yn un o Gymry Cymraeg amlyca'r blaid geidwadol. Ond cyn mentro i'r byd gwleidyddol, roedd yn wr busnes hynod lwyddiannus.

Wrth ei alwedigaeth roedd yn athro ymarfer corff, ond gyda'i wraig fe agorodd siop bapur newydd yn gyntaf, cyn dod yn berchen ar fwytai a chlybiau nos yn y ddinas.
Erbyn hyn mae'n byw yn Ynysforgan, ond mae ei wreiddiau yng Ngheredigion. Cafodd ei fagu ar aelwyd grefyddol ym Mhonrhydfendigaid, ond bellach ac yntau dros ei bedwar ugain oed, dydy Bill ddim yn ystyried ei hun yn gapelwr mawr. Ond mae'n gresynu nad ydi'r enwadau wedi llwyddo i glosio'n fwy at ei gilydd.
Mae'n cyfrif rhai o geidwadwyr blaenllaw y degawdau diwethaf ymhlith ei gyfeillion, Syr Keith Joseph a William Hague yn eu plith nhw.
Mae newydd ymweld a Phatagonia am y tro cyntaf, ac mae'n mwynhau bod yn aelod o'r pwyllgor sy'n codi arian i ddathlu 150 mlynedd ers i'r Wladfa gael ei sefydlu.
Fel cyn athro ymarfer corff (ar un adeg yn Llundain bu'n dysgu Bobby Moore) mae'n dal yn hoff o chwaraeon, ond does dim yn ei wylltio mwy na gweld aelodau o dimau rygbi a phel-droed Cymru'n methu canu'r anthem genedlaethol.


Mae