« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dewi Llwyd a Siân Lloyd

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:36, Dydd Sul, 5 Rhagfyr 2010

Fe ddaeth Sian Lloyd i'r amlwg yng Nghymru fel un o gyflwynwyr cynnar S4C. Ond ers ugain mlynedd bellach mae'n adnabyddus fel un o gyflwynwyr rhagolygon y tywydd i ITV ac mae'n ymfalchio yn y cymwysterau proffesiynol y mae wedi eu hennill gan y Swyddfa Dywydd.

Dewi Llwyd a Siân Lloyd

Yn ferch i athrawon cafodd ei magu yng Nghastell nedd, ac fel disgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Wedi carwriaeth hir gyda'r cyn aelod seneddol Lembit Opik, fe briododd Jonathan Ashman, un o benaethiaid y byd rasio ceir, ym Mhortmeirion yn Rhagfyr 2007.

Mae ei chartref bellach yn Kensington ond mae ganddi dy hefyd ym Maldwyn a does dim yn well ganddi hi a'i gwr na dianc yno am benwythnos.

Mae'n gwneud cryn dipyn o waith elusennol ac er mwyn casglu arian tuag at elusen canser eleni fe ddringodd fynydd Kilimanjaro yn Affrica.