Archifau Hydref 2010

Dewi Llwyd a Philip Davies

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:19, Dydd Sul, 31 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Mae Philip Davies yn un o'r mwyaf gweithgar o Gymry Gogledd America. Bymtheng mlynedd ar hugain yn ol penderfynodd ymfudo i'r Unol Daleithiau.

Phillip Davies

Yn fab i deulu amaethyddol o Landyfaelog yn sir Gaerfyrddin, cafodd swydd gyda chwmni fferyllol yn Efrog Newydd, ac ers hynny bu'n gwneud gwaith ymchwil ym maes gwynegon.

Wrth sgwrsio a Dewi mae'n cydnabod i'r profiad o adael ei famwlad a'i deulu fod yn un poenus. Ond o safbwynt gwaith meddai mae wedi talu ar ei ganfed.

Yn dad i dri o blant, Cymraeg yw iaith yr aelwyd yn New Jersey, ac ar hyd y blynyddoedd mae Philip a'i wraig Meril wedi teithio'n gyson yn ol ar draws yr Iwerydd.

Am gyfnod hir bu'n Llywydd Sefydliad Cymraeg Gogledd America ond mae'n gresynu nad yw'r gymdeithas honno yn llwyddo i ddenu cymaint o aelodau ag y bu.

Dewi Llwyd a Rob Piercy

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:29, Dydd Sul, 24 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Yn enwog am ei dirluniau o Eryri mae'r arlunydd Rob Piercy yn gredwr cryf mewn gweithio'n ddisgybledig o 10 - 5 yn ystod yr wythnos ond fydd o byth yn peintio ar y Sul.

Rob Piercy

Dyma un diwrnod i'w dreulio gyda'r teulu neu gyda chlwb dringo Porthmadog .

Fe fu'n aelod o'r clwb ers y 60au ond mae'n cyfaddef eu bod yn cerdded dipyn mwy na dringo wrth fynd yn hŷn!

Wedi blynyddoedd o weithio fel athro, dyma benderfynu ail afael o ddifrif yn y peintio ac agor oriel ym Mhorthmadog ym 1986, yn dilyn ei lwyddiant yn yr oriel fe gafodd roi'r gorau i ddysgu a chanolbwyntio ar gelf dair blynedd yn ddiweddarach.

Mae'n cyfaddef mai y printiau sy'n cynnal y busnes, ac y byddai wrth ei fodd petai'n gwerthu un llun gwreiddiol yr wythnos.

Mae hefyd yn cyfaddef iddo ddysgu disgyblion oedd yn fwy naturiol ddawnus nag ef, ond i fod yn artist llwyddiannus mae rhaid wrth ddawn yn ogystal â gwaith caled!

Fel un sy'n mwynhau tirwedd Cymru yn well yn y gaeaf na'r haf , gan fod y mynyddoedd yn llawer fwy difyr a'r golau yn well, peidiwch a'i wylltio drwy feiddio galw ei wlad enedigol yn 'Gymru fach'.

Dewi Llwyd a Twm Morys

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:43, Dydd Sul, 17 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Ger Llanystumdwy yn Eifionydd y mae cartref y prifardd Twm Morys a'i deulu.

Twm Morys

Pan nad yw'n barddoni, neu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion, Twm sy'n coginio ar gyfer ei wraig Sioned, a'u tri o blant, ac mae'n benderfynol mai cynnyrch lleol sy'n cael ei roi ar y bwrdd.

Mae'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd modd cael gwin gwyn o Ben Llyn!

Ar hyn o bryd mae Twm ar daith deyrnged i fywyd a gwaith ei gyfaill mawr, y diweddar Iwan Llwyd.

Mae'n treulio cryn dipyn o'i amser hefyd yn paratoi ei golofn farddol boblogaidd yn Y Cymro, ac ar ôl ei flwyddyn fel bardd plant Cymru, mae'n sicr fod y ddawn i farddoni yn y mwyafrif ohonom.

Ar ôl ennill cadair Maldwyn yn 2003, byddai wrth ei fodd yn cipio cadair arall. Yn fab i'r awdur adnabyddus Jan Morris, mae'n son yn ei sgwrs a Dewi am ddylanwad mawr ei rieni arno, a'i hapusrwydd o'u cael yn byw led cae oddi wrtho. Cyn ail ymgartrefu yn Eifionydd, bu Twm yn byw yn Llydaw am gyfnod. Mae ganddo fab sy'n byw yno, ac yn Llydaweg y bydd y ddau'n sgwrsio.

Dewi Llwyd a Donna Edwards

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|13:59, Dydd Sul, 17 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Os nad oes rhaid dysgu sgriptiau bydd Donna wrth ei bodd yn rhoi ei thraed i fyny ac ymlacio ar y Sul.

Yn brysur iawn ar hyn o bryd, gyda'i chymeriad Brit Monk yn Pobl y Cwm, ac yn dysgu arwain Cor cymysg ar gyfer y gyfres Codi Canu.

Mae'n son am ei phlentyndod ym Merthyr, ac un cofnod yn ei dyddiadur ar y pryd 'stayed in bed today, there's no money'.

Fe gafodd brofiad actio wedi bod yn y clwb ieuenctid dan arweiniad Nan Wyn Owen - un a fu'n gefnogol iawn iddi yn arbennig felly wedi i'w mam farw pan oedd Donna'n 17oed.

O aelwyd ddi-Gymraeg, yn y coleg yn Aberystwyth doedd astudio'r Gymraeg ddim yn hawdd a bu bron iddi fethu arholiadau'r flwyddyn gyntaf, ond fe lwyddodd i fynd yn ol a chael gradd Drama.

Fe ddaeth cyfle buan ar ol gadael coleg i gael rhan yn y gyfres Dinas, wedi hynny bu'n rhan o driawd Tair Chwaer, hoff raglen Donna gan ei bod yn cael cyfuno actio a chanu.

Mae ganddi ddwy ferch yn eu harddegau sy'n mwynhau actio hefyd. Yn briod a Ray, ac fel ei ail-wraig yn hapus fod ei theulu estynedig yn eithaf mawr, ac yn mwynhau'n arw y teitl Nana Donna!

Dewi Llwyd a Wyn Lodwick

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:49, Dydd Sul, 3 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Bellach dros ei bedwar ugain oed, Wyn Lodwick yw un o gerddorion jazz amlycaf Cymru, ac ynghyd a'i fand, mae'n dal i fod yn brysur tu hwnt.

Wyn Lodwick

Yn ei gartref yn y Pwll ger Llanelli, bu'n hel atgofion am ei gefndir cerddorol ac am rai o'i arwyr jazz, gan egluro hefyd pam fod diwylliant a gysylltir yn bennaf a phobl dduon America wedi dylanwadu cymaint ar y Cymro Cymraeg o dref y Sosban.

Mae Wyn yn pwysleisio'n ogystal fod dau Gymro yn haeddu eu lle ymhlith enwogion jazz y byd.

Os nad yw'n swyno cynulleidfaoedd gyda'i glarinet, 'does dim yn well gan Wyn na bod ar ei gwch.

Yn forwr brwd ers ei lencyndod a'i ddyddiau yn y llynges, mae ganddo gwch yn un o borthladdoedd Ynys Mallorca, a bydd yn teithio yno hanner dwsin o weithiau'r flwyddyn.