« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dewi Llwyd a John Gwilym Jones

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|14:42, Dydd Sul, 25 Gorffennaf 2010

Fel cyn archdderwydd a chyn gofiadur mae lle amlwg wedi bod i John Gwilym Jones yn Eisteddfodau'r tri degawd diwethaf.

Bu'n weinidog ar Eglwys Annibynnol Pendref ym Mangor am ddeugain mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd y gadair ym mhrifwyl Bro Ddyfi ym 1981.

Bellach mae wedi ymddeol ac ar ol ymgartrefu ym Mheniel, sir Gaerfyrddin, mae'n falch o fod yn nes at ei fro enedigol, ac at ei dri phlentyn a'u teuluoedd.

Yn ei sgwrs a Dewi mae'n ceisio egluro pam fod barddoniaeth yng ngwaed teulu Parc Nest, a pham nad oes angen gair o gyngor ar ei frawd mawr yn ei Eisteddfod gyntaf fel archdderwydd.

Mae John Gwilym yn dweud nad oes fawr ddim yn ei wylltio a'i fod yn ymhyfrydu yn y ffaith fod y diwydiant llyfrau Cymraeg mor gynhyrchiol ar hyn o bryd.