« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dewi Llwyd a Betty Williams

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|13:36, Dydd Sul, 11 Gorffennaf 2010

Wedi blynyddoedd lawer fel cynghorydd sir a dosbarth, bu Betty Williams yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Conwy am dair blynedd ar ddeg cyn iddi ymddeol yn 2010.

Betty Williams

Yn ystod ei sgwrs â Dewi mae'n hel atgofion am y cyfnod hwnnw pan oedd ei phlaid mewn grym.

Mae'n lleisio barn am y ddau brif weinidog Tony Blair a Gordon Brown, ac yn son hefyd am ei hymdrech i gyfuno gwaith a bywyd teuluol.

Mae'n egluro hefyd pam y penderfynodd ymddeol gan awgrymu fod a wnelo gorsaf drenau Crewe a hynny!

Cawn glywed am bwysigrwydd ei chefndir yn y capel ac am ei phrofiadau fel myfyrwaig aeddfed. Mae'n son yn gyntaf am ei Sul arferol.