Bellach yn ei wythdegau, mae'r cerddor Rhys Jones yn dal i fwynhau cyflwyno ei raglen radio boblogaidd ar foreau Sul.
Fel cyfansoddwr, cyfeilydd, arweinydd a beirniad mae cerddoriaeth o bob math yn apelio ato.
Mae'n cael pleser anghyffredin o weld y disgyblion lu y mae ef a'i wraig, Gwen, wedi eu dysgu, yn llwyddo mewn gwahanol feysydd.
Yng nghwmni Dewi mae hefyd yn bwrw golwg yn ôl ar gyfnod pan oedd gweithgareddau Cymraeg yn ganolog i fywyd rhai o bentrefi'r gogledd ddwyrain.
Barnwr Uchel Lys, ac un o farnwyr mwyaf profiadol Cymru yw Syr Roderick Evans.
Mae'n son wrth Dewi am y modd y mae'r drefn gyfreithiol wedi ei Chymreigio'n ddiweddar, am yr angen i hynny fynd gam ymhellach, ac am ei siom nad oes carchar yn y gogledd.
Yn enedigol o Dreforys mae'n dal i fyw yn Abertawe, ac fel un a ddysgodd Gymraeg yn ei arddegau, mae wrth ei fodd fod ei blant a'i wyrion i gyd yn rhugl yn yr iaith.
Cyfle i glywed barn un o wleidyddion amlycaf y deugain mlynedd diwethaf am bynciau'r dydd.
Mae Dafydd wedi ymddeol fel aelod Cynulliad ers 2003 ond mae'n dal i fod yn llywydd anrhydeddus Plaid Cymru, ac yn llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn y sgwrs mae hefyd yn son am ei deulu cerddorol, a'i hoffter o arddio a phel-droed.
Mae Dafydd Wigley'n cychwyn y sgwrs drwy son sut fydd o'n treulio ei Sul arferol.