Dyfyniadau difyr
Y detholiad wythnosol arferol o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos.
A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw . . .
- Dyw’r hyn oedd yn mynd drwy ei feddwl ddim yn eglur – Y Crwner Nicholas Rheinberg yng nghwest Gary Speed.
- Oerach na gwlad yr Iâ – Sawl stori a bwletin newyddion yn ystod yr wythnos gyda rhai wedi mynd cyn belled a Phegwn y De i chwilio am gymhariaeth.
- Gallai adnabod un nodwedd ar Gymru 2012 a fyddai’n gyfarwydd iawn i ymwelydd o Oes Victoria. Honno yw’r bri a osodir unwaith eto . . .arlwyddiant personol Cymry unigol yn y byd Seisnig – Dafydd Glyn Jones yn ‘Barn’ yn dychmygu Emrys ap Iwan yn ymweld â Chymru heddiw.
- Teimlo ydan ni nad ydan ni yn cael gwerth am yr arian sy'n mynd i'r mudiad yn Lloegr a hefyd yn teimlo nad ydan ni'n cael y gwasanaeth gorau yn y Gymraeg o Loegr - Iwan Meirion, is-gadeirydd Cangen Meirionnydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn arwain ymgyrch ‘annibyniaeth’ i'r sir.
- Oherwydd problemau technegol – diffyg cyflenwad trydan yn Nhrefan a Llanystumdwy a batri’r gliniadur yn fflat – nid oes coofn gynganeddol yr wythnos hon. Bydd Twm yn dychwelyd yr wythnos nesaf – Siom i ddilynwyrcolofn farddol Twm Morys yn ‘Y Cymro’ yr wythnos hon.
- Mae Cymraeg lot o bobl yn rhydlyd ar ôl yr ysgol ac maen nhw eisiau ailgydio yn yr iaith – Marc Jones, cadeirydd canolfan Gymraeg newydd Saith Seren yn Wrecsam.
- Mae Loegr yn bencampwyr byd ar wastraffu talent – Graham Henry yn rhoi ei farn am dîm rygbi Lloegr ar therugbysite.com ar drothwy’r Chwe Gwlad.
- Mae deugain y cant o ddisgyblion yn cyrraedd ysgol uwchradd gydag oed darllen sydd fwy na chwe mis yn is na’u hoed go iawn – Ann Keane, prif arolygydd ysgolion Estyn.
- Diolch am eich negeseuon caredig a’ch pryderon. Dydw i ddim wedi eich gadael chi . . . dim ond cymryd rhywfaint o amser ond rwy’n addo bod yn ôl cyn bo hir – Katherine Jenkins yn trydar am y tro cyntaf ers iddi hi a Gethin Jones wahanu.
- Yn wir i Dduw dydw i erioed wedi cyfarfod pobl neisiach – Paddy Doherty - a ddaeth i amlygrwydd yn sgil‘Big Brother’ a ‘My Big Fat Gypsy Wedding – wrth ei fodd gyda’r croeso a dderbyniodd yn lleol yn awr ei fod yn byw yn Sealan Sir Y Fflint.
- Ma tua’r un rhinwedd mewn cael trafodaeth wleidyddol ar Twitter ag sydd yna o sgwennu maniffesto gwleidyddol ar ffurf englyn – Lefi Gruffudd yng nghylchgrawn y ‘Western Mail’ ddydd Sadwrn.
- Mae angen i ni yng Nghymru fod y gorau y gallwn ni fod, yn hytrach na thrio arddel gwerthoedd a diwylliannau gwledydd eraill – Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn rhannu ei weledigaeth gyda Karen Owen yn ‘Y Cymro’.Dywedodd hefyd bod “wasanaethu’r cyhoedd” yn golygu “addysgu, gwefreiddio, cyffroi ac ennyn ymateb o bob math”.
- Mae'n edrych braidd yn druenus ar hyn o bryd - Ashley Gardner sy’n ymgyrchu i adnewyddu hen long y Duke of Lancaster sydd yn rhydu ar y lan ger Mostyn, Sir Y Ffint.
- Dwi’n cofio ymaelodi a chael bathodyn triongl a rhif aelodaeth dau ddeg rwbeth . . . Roedd y bathodyn gen i nes yn ddiweddar iawn, ond fedrai ddim ei ffeindio erbyn hyn – Mena Jones o Borthmadog yn cofio yn ‘Y Cymro’ ymaelodi a’r â’r Urdd yn 1922.
- Y mae ganddo’r galon fwyaf o bawb yr ydw i yn ei adnabod – Hal Luscombe am brop y Scarlets, Rhys Thomas, sydd newydd gael triniaeth feddygol i’w galon.
- Mae’r teitl eleni ar gael i unrhyw un ond ni allaf i weld unrhyw dîm yn ennill pump allan o bump – Barry John yn y ‘Wales on Sunday’ ar drothwy gemau’r Chwe Gwlad. Mae’n rhagdybio hefyd mai Leigh Halfpenny fydd yn sbarduno tîm Cymru yn y modd yr arferai Shane Williams wneud.

