Yr Alarch Du nofel Rhiannon Wyn
Disgrifiwyd nofel ddiweddaraf Rhiannon Wyn i blant, Yr Alarch Du, fel un sy’n mynd i’r afael a phynciau heriol.
Ac fe’i canmolwyd ar rifyn Rhagfyr 7 o Y Silff Lyfrau. Fe’i cyhoeddir gan Y Lolfa. £5.95
Y tri adolygydd a blesiwyd gan nofel ddiweddaraf Rhiannon Wynoedd :Gwion Hallam,
Llinos Gerallt a
Marred Llwyd
a gellir clywed oedd gan y tri i’w ddweud mewn sgwrs gyda Kate Crockett, cyflwynydd, Y Silff Lyfra, trwy glicio isod.
Mae'r nofel wedi ei lleoli yng Nghaernarfon gyda'r castell ei hun yn agor y stori ond er iddi gael ei disgrifio fel nofel "uchelgeissiol" yr oedd y tri adolygydd o'r farn ei bod yn darllen yn rhwydd gan ganmol yr awdur am lwyddo i wneud i nofel sy'n trafod rhai pynciau dwys a heriol am gynnwys rhannau hwyliog hefyd.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

