Byw'n dda
Go brin y bydd neb yn dadlau ac yn anghydweld â’r neges yn llyfr diweddaraf Angharad Tomos, Bodlon – Byw’n hapus ar lai.
Cri yw’r llyfr - digon blêr, dryslyd a darniog o ran diwyg - am inni fyw yn ddarbodus, yn ddiwastraff, yn syml ac i beidio ag afradu y cyfoeth sydd ar gael inni yn y byd – er mwyn arbed y byd hwnnw a’i bobl.
Ac mae hi mor hawdd:
“Y cyfan sydd raid inni ei wneud ydi dysgu bod yn fodlon. Dim ond inni fodloni ar lai, bydd yr ymdrech fawr i ennill arian yn arafu,” meddai.
•Bodlon – Byw’n hapus ar lai gan Angharad Tomos. Gwasg Gwynedd. £7.95.Ie, yn ôl y testament bach hwn o’r efengyl seml, yr hyn sydd o’i le ar y byd yw’r awch farus i feddiannu. A’r ateb i hynny yw, gwrthsefyll a rheoli y Dwi ishio greddfol hwnnw sy’n rhan ohonom ac yn gyrru’r rhelyw mor ddiarbed.
“Dydyn ni ddim angen arian mawr i fwynhau ein hunain, felly mae angen ailedrych ar ein patrwm gwaith,” meddai.
Hawdd fyddai tybio o’r llyfr y byddai hynny ynddo’i hun yn ddigon i achub byd sydd mewn cyflwr go ddyrys – ond gwyddom hefyd i bethau fynd mor bell fel bod angen, gwaetha’r modd, llawer iawn mwy i gael yr hen fyd yma at ei goed nag i rai ohonom fyw’n denau. Efallai bod yr ateb yn syml – dyw ei weithredu ddim.
Ond go drapia, mae pob tamaid yn help fel y dwedodd y dryw diarhebol hwnnw wrth syllu ar y môr!
Ond cadw pethau’n syml yw nod yr awdur ac wrth sôn am ei llyfr yn Y Papur Gwyrdd yn ddiweddar dywedodd nad oes ganddi hi diddordeb o gwbl sut mae cynhesu byd-eang yn digwydd a dywed fod clywed am ôl troed carbon a nwyon tŷ gwydr “yn rhoi’r felan” iddi.
“Dydw i ddim gwahanol i 99% o bobl Cymru. A sgwennu y llyfr ar gyfer y rhain a wnes i,” meddai.
Pobl fel fi a’m tebyg, felly, ac ymhlith y cynghorion neu awgrymiadau sut y gallwn achosi llai o niwed i’n daear y mae; bwyta’n lleol, peidio gyrru a hedfan gormod, byw yn ddarbodus, peidio gwastraffu, gwisgo dillad ail law, defnyddio llai o drydan, diddosi’n tai, gweithredu’n lleol, tyfu’n bwyd ein hunain, cael gwared o’r teledu a mwynhau’r pethau bychain nad oes cost ynglŷn â hwy.
Ar wahân i’r busnes teledu yna go brin y cewch chi neb a fyddai’n anghydweld yn ffyrnig iawn y gallem fod yn llawer iawn llai gwastraffus ac y mae rhyw apêl baradwysaidd mewn darlunio’n hunain yn troi cefn ar ruthr byw bob dydd a “dotio at wên plentyn, gwylio llygad y dydd, bwydo adar, cofleidio rhywun annwyl” am mai “dyma’r pethau sy’n cyfrif mewn bywyd.
A dydyn nhw’n costio dim.”
Fel y dwedais i, pwy fyddai’n dadlau â hynny? Mae’n sicr yn ddelfryd y gwnâi les inni gyd geisio ymgyrraedd ati, ei chyffwrdd a glynu wrthi; yn yr un modd ag y byddai’n llesol i bob un ohonom holi hefyd, yn unol a chyfarwyddyd y llyfr, cyn prynu unrhyw beth, “Ydw i wirioneddol ei angen?”.
Felly, beth sydd yna ddim i’w lecio am y llyfr hwn? Dim byd mewn gwirionedd. Ar wahân i’w dôn. Y dôn honno oedd yn fy atgoffa i, o leiaf, o’r rhai tadol hynny sy’n gwybod yn well na ni yr anwybodus anoleuedig.
Ac mae gen i ofn i’r llyfr beri ynof yr ymdeimlad hwnnw o gael fy nhrin fel plentyn a deffro hen, hen, awydd i fod eisiau cicio yn erbyn y tresi a gwrthwynebu gorchmynion di-ben-draw y sawl sy’n gwybod gymaint gwell na ni.
Gall fe all y gwnewch hyn a’r peidiwch â gwneud y llall diddiwedd fod yn dreth. Ar gornel un ddalen nodweddiadol, mewn pedair brawddeg o ddim ond rhyw 35 o eiriau, berfau gorchmynnol a ddefnyddir un ar ôl y llall; magwch, ewch, rhowch, perswadiwch . . .
Ac fe’m cefais yn holi fy hun sawl tro, hefyd, tybed a yw’r llyfr yn ymylu ar fod yn nawddoglyd hunangyfiawn.
Bendith ar y neges, felly, ond nid ar ei dweud.
Ac yr oedd hynny’n drueni. Yr oeddwn i gymaint o eisiau cydymffurfio.

