Hwyl a Chyfeillgarwch
Paul Condon
Digital Content Producer
Ar Chwefror 26 fe gynhaliwyd digwyddiad unigryw yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Diben y digwyddiad oedd i rhoi cyfle i siarad am yr heriau sy’n wynebu pobl ifanc anabl yn eu harddegau i fwynhau y bywyd cymdeithasol mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn derbyn yn ganiataol.

Fe drafodwyd nifer o atebion ymarferol a fyddai’n galluogi i bobl ifanc anabl i fynd allan ac i wneud teithio’n hawddach. Er enghraifft: a fyddai’n bosib i greu carden teithio – sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yng Nghwynedd – i bob person ifanc anabl yng Nghymru?
Roedd y drafodaeth yn obeithiol ac yn adeiladol ond darodd un dyn ifanc tant pan soniodd, yn eithaf ddifraw, ei fod yn teimlo lle bynnag mae’n mynd mae’n disgwyl ni fyddai’n cael ei dderbyn.
Y neges a wnaeth atseinio’n glir oedd mae’r newidiadau pwysicaf sydd angen eu gwneud yn ymwneud â deall ac ymddygiad. Mae anawsterau ymarferol yn gallu cael eu datrys yn ddigon rhwydd os all pawb cymryd rhywfaint bach o amser i wrando a dod i ddeall eu gilydd. Wnaeth pawb adnabod newidiadau er gwell i’w gwneud yn eu bywydau (yn broffesiynol neu’n breifat).
Dychmygwch am raddfa’r newid pe bai pawb yn gallu gwneud yr un peth.
