« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sen Segur - Sudd Sudd Sudd

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|08:51, Dydd Llun, 7 Ionawr 2013

Haia!

Yn syth ar ol i ni dderbyn albym gynta Siddi, mae ail CD gan label i-ka-ching wedi glanio ar fy nesg. Y tro yma, EP Sen Segur sydd wedi cyrraedd - "Sudd Sudd Sudd". Mae'r EP wedi ei recordio gan Mr Huw, a'i ol-gynhyrchu gan Iwan "Recall" Morgan", ac mi fydd allan ar Ionawr 21ain.

Un o'r pethe cynhara' i Sen Segur wneud fel band oedd recordio sesiwn byw i'r rhaglen 'nol yn 2010. Er fod y band yn ifanc iawn, a'r sesiwn yn recordiad byw, eitha amrwd, mi oedd hi'n amlwg o'r cychwyn cyntaf eu bod nhw'n fand talentog iawn, llawn syniadau, a chaneuon bachog.

Ers hynny, dwi wedi gweld y band lot fawr o weithie'n fyw, a thrwy gigio'n hynod gyson a chyd-weithio hefo cynhyrchwyr fel John Lawrence a Mr Huw, mae swn y band wedi datblygu, ac ma nhw erbyn hyn yn fand byw gwych, hefo arddull unigryw. Mi oedd yr EP gynta Pen Rhydd, ddaeth allan yn 2011, yn anhygoel, a'r sengl Sarah/Nofa Scosia yn bop seicadelic perffaith!

Felly, dwi'n edrych ymlaen at fedru chwarae'r traciau ar y rhaglen yn fuan gobeithio, ac yn y cyfamser, dyma rywfaint mwy o wybodaeth am yr EP gan y band.

Hwyl

Lis

X

Sen Segur

Sudd Sudd Sudd

Traciau:

Hei Bacym Do!

Lemoned Cymylog

Nofio Trybelydrol

Sentriffiwgal

8onglog



Gigs

19.01.13 Clwb Ifor Bach, Caerdydd/Cardiff

26.01.13 Caffi Siabod, Capel Curig

02.02.2013 Caerfyrddin/Carmarthen

05.02.2013 Bala

08.02.2013 Y Llangollen, Bethesda

09.03.2012 Ar y Rels, Bangor



Rhyddheir Sudd Sudd Sudd ar ffurf CD ac yn ddigidol i'w lawrlwytho o itunes, amazon, spotify ayyb o'r 21ain o Ionawr 2013 ymlaen. Bydd Sen Segur yn gigio'n brysur i hyrwyddo'r ep yn y flwyddyn newydd, a bydd yr ep ar gael i'w prynu yn y gigs, yn ogystal ag yn y siopau canlynol: ; Bys a Bawd (Llanrwst); Andy's Records (Aberystwyth); Spillers Records (Caerdydd); The Parrot (Caerfyrddin) ; Awen Meirion (Bala), Llen Llyn (Pwllheli), Palas Print (Caernarfon) a gwefan www.sadwrn.com.