« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Noson Wobrau'r Selar

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|15:00, Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013

Helo!

Mi fydd y rhai ohona ni sy’n dilyn cylchgrawn Y Selar @y_selar ar Twitter neu Facebook wedi sylwi eu bod nhw’n brysur iawn ar hyn o bryd. Mae’n nhw wrthi’n paratoi rhifyn nesa’r cylchgrawn (ac yn chwilio am newyddion/cynnyrch newydd, gyda’r llaw [email protected]) ond mae hi hefyd yn gyfnod pleidleisio Gwobrau’r Selar.

Mae Gwobrau’r Selar yn digwydd yn flynyddol, ac yn gwobrwyo artistiad Cymraeg am eu gwaith a’u cynnyrch yn ystod y flwyddyn – a ni’r cyhoedd sy’n cael pleidleisio. Felly – ewch i bleidleisio!

Ond yn fwy na hynny eleni, mae Selar wedi penderfynnu creu “Noson Wobrau’r Selar” – ryw fath o fersiwn cyfoes o nosweithiau Sgrech y gorffennol dwi’n meddwl. Mi oedd Y Selar wedi cyhoeddi’r dyddiad a’r lleoliad yn barod, sef Neuadd Hendre ar Fawrth 2il, ond heddiw, ma nhw wedi cyhoeddi rhai o’r artistiaid fydd yno ar y noson.

Yr enwau cyntaf i gael eu cyhoeddi ydy Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana, Gwenno a Swnami! Mi ydw i’n andros o falch gweld rhai o fy hoff artistiaid ar y rhestr – mae hi’n edrych yn “line-up” a hanner hyd yma!

Mae tocynnau’r noson ar werth rwan o wefan Sadwrn sadwrn.com - £6 ymlaen llaw, neu £8 ar y drws – os bydd rhai ar ol!

Dwi’n edrych ymlaen yn barod at y gig, a phwy bynnag fydd yr ennillwyr, mi fydd hi’n gig anhygoel dwi’n siwr.

Hwyl

Lis

x